Part of 4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Rydym wedi bod yn rhan fawr o gystadleuaeth Llywodraeth y DU, lle gall consortia dan arweiniad busnes, gan gynnwys awdurdodau lleol a sefydliadau academaidd, wneud cais i gael cyfran o werth £25 miliwn o arian, fel y dywedais, gan DCMS. Ac mae hynny'n ceisio cefnogi datblygiad yr holl dechnoleg; nid y cysylltedd yn unig—ond yr holl ddyfeisiau, os mynnwch, sy'n mynd gyda hi. Felly, nid yw 5G yn mynd yn bell iawn; mae'n signal eang nad yw'n mynd yn bell iawn, felly mae angen llawer o ddyfeisiau ar ddodrefn stryd ac ati. Felly, rydym yn awyddus iawn i wneud yn siŵr bod y cadwyni cyflenwi yn hyfyw yma yng Nghymru ac yn y DU yn gyffredinol, ac nad ydym yn dibynnu gormod ar dechnoleg allanol. Yn wir, Dirprwy Lywydd, bu'n nod gan y Llywodraeth hon bob amser i lenwi'r bylchau mewn cadwyni cyflenwi ar gyfer cwmnïau Cymru os yw'n bosibl, ac yn amlwg mae hwn yn gyfle.