Part of 4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Ie, mae hynny'n fater enfawr o rwystredigaeth i mi, rhaid i mi ddweud, oherwydd mae a wnelo hynny â'r ffordd y gwerthodd Llywodraeth y DU y sbectrwm a'r gwahanol gwmpas daearyddol y gwnaethant neu na wnaethant ei roi arno. Felly, mae'n amlwg yn annigonol. Rwyf wedi crybwyll droeon yn y Siambr hon fy rhwystredigaeth nad oeddent yn gallu sicrhau eu bod yn gweld bod cael un darparwr ar draws 98 y cant o dir Cymru, sef yr hyn sydd gennym, yn amlwg yn ddiwerth. 'Dewch i ymweld â'm busnes twristiaeth gwych, ond peidiwch â dod oni bai eich bod ar rwydwaith penodol'—hynny yw, mae'n amlwg nad yw hynny'n gweithio. Felly, buom yn gweithio'n galed iawn gydag amrywiaeth o awdurdodau eraill yng ngogledd Lloegr a'r Alban sydd i gyd â'r un broblem. Oherwydd y tu allan i'r cytrefi, mae gwir angen trawsrwydweithio fel y gallwch gysylltu ag unrhyw rwydwaith.
Y peth arall yw nad yw pobl yn sylweddoli y gallant ddal i wneud galwad 999. Felly, rydym wedi cael rhai enghreifftiau lle gallai rhywun fod wedi gwneud yr alwad honno oherwydd bydd eu ffôn yn cysylltu i unrhyw rwydwaith os ydynt yn ffonio 999, hyd yn oed os yw'n dweud 'dim gwasanaeth' arno, oherwydd gallai fod mai eu rhwydwaith benodol nhw sydd heb wasanaeth. Mae rhwydwaith ar draws Cymru ar gyfer cwmpasu 98 y cant, ond nid yw'n ddigon da, felly rydym yn gwneud y pwynt hwnnw.
Yn wir, un o'r pethau eraill i'w ddweud yw, wrth inni gyflwyno'r band eang ac wrth inni gael signalau Wi-Fi yn cael eu darlledu o lawer o'n rhwydwaith, wrth gwrs, daw galw Wi-Fi ar gael i bobl na fyddent yn cael 4G, felly ceir rhywbeth wrth gefn o gyflwyno band eang. Un o'r rhesymau ein bod wedi strwythuro'r ail gyfres o gyflymu yn y ffordd honno yw ein bod wedi targedu pobl nad oedd ganddynt fand eang neu 4G, fel nad oeddent yn gallu mynd ar y rhwydwaith mewn unrhyw ffordd, ac mae hynny'n benodol iawn lle nodwyd bod y cyfrannau hynny i fynd.
Dau beth arall i'w ddweud am hynny, serch hynny: rydym wedi lobïo’n galed iawn am y ffordd y mae'r setiau nesaf o sbectrwm—sbectrwm isel a sbectrwm uchel—i gael eu gwerthu, gan ein bod yn credu bod angen i Lywodraeth y DU ddeall bod hynny'n broblem, ac yr ymunir â ni yn hynny gan nifer fawr o feiri'r dinasoedd mawr, yn rhyfedd ddigon, a rhywfaint o'r consortiwm awdurdodau lleol yng ngogledd Lloegr a'r Alban, gan fod yr un broblem gennym oll.