Part of 4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Ie, yn wir, ac rydym yn perthyn i'r rhwydwaith diogelwch seiber cenedlaethol, ac rydym wedi ymrwymo i strategaeth diogelwch seiber cenedlaethol. Rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd da iawn gyda'r Ganolfan Diogelwch Seiber Genedlaethol, ac maen nhw wedi ymweld â ni ddwywaith i wneud yn siŵr bod ein cynlluniau cydnerthu seiber mewn trefn. Mae Swyddfa'r Cabinet wedi sicrhau bod arian ar gael i Gymru ar gyfer cydnerthedd seiber, ac rydym wedi dyrannu arian i brosiectau ledled Cymru i gryfhau cydnerthedd seiber drwy ein grant refeniw cydnerthedd seiber, sydd yn eithaf anodd ei ddweud. Rydym hefyd wedi dyfarnu arian i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer y 22 o awdurdodau lleol i gyflawni hanfodion seiber yn ogystal ag ardystio, i'w helpu i gryfhau diogelwch seiber o fewn eu sefydliadau i safon gydnabyddedig gan y Llywodraeth. Felly, rydym yn awyddus iawn i wneud yn siŵr bod gennym yr holl gydnerthedd seiber ar waith i sicrhau nad ydym yn cael y math o broblemau y mae David Rowlands yn eu disgrifio.