Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 4:13, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf, arweinydd y tŷ, a gaf i gyfeirio at eich datganiad ar y cynllun Cyflymu Cymru, a chydnabod llwyddiant gweithredu tasg enfawr ac anferthol o'r fath, ac, yn wir, y ddarpariaeth o fwy o ddarpariaeth ffôn symudol yr ydych wedi'i chael?

Yn dilyn ymlaen rywfaint o sylwadau Bethan Sayed, gwn y byddwch yn ymwybodol bod technoleg 5G eisoes yn dechrau dyddio rhywfaint ar y cynnydd a wnaed mewn technoleg gwybodaeth a seilwaith symudol Cymru. Felly, a oes modd ichi, os gwelwch yn dda, ein diweddaru ar statws presennol y paratoadau ar gyfer gweithredu 5G yng Nghymru? A fyddai'n bosibl darparu rhywfaint o wybodaeth ar y ffynonellau o dechnoleg a ddefnyddir i weithredu'r cyflwyniad hwnnw?