Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 4:03, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y llynedd, mynegodd Cymorth i Ferched Cymru bryder ynghylch y diffyg cymorth mewn lloches i oroeswyr cam-drin domestig a'u plant. Gwnaed cyfeiriad penodol at fenywod o leiafrifoedd ethnig, menywod anabl ac, mewn nifer fach o achosion, at ddynion. Ar hyn o bryd, nid yw'r data ar nifer y llochesi yn cael eu casglu neu eu cadw'n ganolog  yng Nghymru. A yw arweinydd y tŷ yn cytuno â mi y dylid casglu'r data hyn, a pha gamau y mae hi'n eu cymryd i unioni hyn?