Part of 4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Mae cyfiawnder yn dal heb ei ddatganoli. Ni all y cyfrifoldeb hwnnw ddod i Gymru yn ddigon buan, cyn belled ag yr wyf i yn y cwestiwn. Pan ddaw at garcharu menywod, rwy'n cytuno'n gryf â Chynghrair Howard er Diwygio Cosbau, a ganfu fod gormod o lawer o fenywod yng Nghymru yn cael eu hanfon i'r carchar ac nad oes cyfleuster yma yn y wlad hon. Maent yn dweud, a dyfynnaf:
'Mae yna gwmpas sylweddol i wella'r gwasanaethau a chanlyniadau drwy ddatblygu rhwydwaith bach o ganolfannau i fenywod yng Nghymru a lleihau'n sylweddol nifer y menywod sy'n cael eu hanfon i'r carchar'.
Nawr, yn ychwanegol at y rhwydwaith hwn o ganolfannau i fenywod, un ffordd o leihau nifer y menywod sy'n cael eu hanfon i'r carchar fyddai buddsoddi mewn gwasanaethau prawf fel y gall fod yn ddewis amgen gwirioneddol i'r ddalfa. O gofio nad yw'r gwasanaeth prawf wedi'i ddatganoli, ac o gofio ei bod fwy neu lai wedi ei hanner breifateiddio, sut allwch chi, yn ymarferol, ddylanwadu ar yr agenda hon?