Part of 4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Rydym wedi cael llawer o drafodaethau ar yr union bwynt hwn. Cytunaf yn llwyr â Chynghrair Howard er Diwygio Cosbau. Rwyf wedi bod yn gyd-deithiwr iddynt ers llawer iawn o flynyddoedd. Ac mae hynny'n hollol ar bwynt y drafodaeth yr ydym wedi bod yn ei chael. Rydym yn awyddus iawn i gael system cyfiawnder troseddol wedi'i datganoli cyn gynted â phosibl, gan gynnwys y gwasanaethau prawf. Mae'r gwasanaethau prawf yn gwbl hanfodol i fynd gyda hynny, a'r gwyriad hwn oddi wrth y carchar yr ydym yn sôn amdano, rhaid ichi gael y gwasanaethau hynny ar waith ac, mewn gwirionedd, rhaid ichi gael darpariaeth system cyfiawnder cyn-droseddol ar waith. Dyna pam rydym yn ceisio cryfhau'r ddarpariaeth o wasanaethau ieuenctid hefyd, oherwydd mae'n gyfres o bethau sy'n mynd gyda hyn.
Mae angen inni sicrhau bod llai o blant yn cael eu derbyn mewn gofal o ganlyniad i garcharu eu mam am rywbeth, fel y dywedaf, na fyddai unrhyw ddyn byth yn mynd i'r carchar amdano, a'u bod, lle maent wedi mynd i'r carchar—neu mewn cyfleuster diogel, yn hytrach—eu bod yn rhai bach pwrpasol, sy'n canolbwyntio ar fenywod sy'n agos at ble maent yn byw. Nid dim ond un yng Nghymru, oherwydd nid yw hynny'n dda i ddim os ydych yn byw yn unrhyw le heblaw'r lle mae'n digwydd bod, ond rhwydwaith o'r canolfannau hynny, yn union fel y disgrifiodd Leanne Wood, fel y gallwn wneud yn siŵr y cawn y canlyniad gorau posibl nid yn unig ar gyfer y menywod eu hunain, ond ar gyfer eu plant a'u teuluoedd, y gwyddom yr effeithir arnynt yn aruthrol gan y canlyniad anghywir. A gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet—. Rwy'n dwyn ei glodydd braidd, oherwydd rydym wedi cael y drafodaeth hon— byddwch yn gwybod, rydym yn gytûn ar hynny. Rydym yn cytuno'n llwyr â'r agenda honno, a dyna i ble'r ydym ni'n ceisio mynd â hyn.