Pobl Anabl

Part of 4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 4:19, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw i Caroline; roedd yn ddefnyddiol iawn. Bron flwyddyn yn ôl, cynhaliais ddadl fer yn seiliedig ar awgrym clymblaid Ogwr o bobl anabl ar gyfer system 'sgoriau ar y drws', a fyddai'n helpu busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i arddangos manylion am y math o fynediad sydd ganddynt ar gyfer pobl anabl. Mae grwpiau a sefydliadau—gan gynnwys chi eich hun, arweinydd y tŷ—wedi bod yn gefnogol i'r ymgyrch Hyderus gydag Anabledd. Mae Julian John, sydd, fel y gwyddoch, fel etholwr cyffredin i ni, wedi bod yn fachgen poster gwirioneddol ar gyfer hyn. [Torri ar draws.] Wel, rydym yn ei rannu; mae'n wych.