8. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Tuag at Ddull Gweithredu Penodol o ran y System Gosbi yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:55, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae ein cynigion presennol ar gyfer troseddau ieuenctid felly yn blaenoriaethu mwy o atal cynnar a gweithgareddau dargyfeirio, gan gyrraedd pobl iau hyd yn oed yn gynharach, cyn eu bod mewn perygl o droseddu. Byddwn yn datblygu ymhellach ein dulliau o weithredu o ran dargyfeirio cyn y llys a chynyddu'r gefnogaeth i ddull wedi ei lywio gan drawma ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc mewn perygl o droseddu. Bydd angen dull o weithredu cyfannol, a byddwn yn defnyddio profiad y cynlluniau braenaru i lywio'r gwaith hwnnw. Rydym ni'n cydnabod nad yw'r un dull yn addas i bawb.

Ar yr un pryd, mae'n rhaid ystyried sut orau i osod carfan fechan o bobl ifanc ag anghenion cymhleth yn aml iawn, mewn amgylchedd diogel sy'n addas i'w ddiben. Yna mae'n rhaid cael y math iawn o gymorth i helpu'r bobl ifanc hyn adfer ac ail-ymsefydlu yn eu cymunedau. Bydd yr holl waith a wnawn ni gyda phobl ifanc yn seiliedig ar ddull sy'n seiliedig ar hawliau, sef eu hystyried fel plant neu bobl ifanc yn gyntaf, nid fel troseddwyr neu rywun a allai fod yn droseddwr.

Mae nifer anghymesur o uchel o fenywod yn dal i gael eu hanfon i'r carchar, yn aml ar gyfer dedfrydau byr. Rydym ni'n cydnabod bod hyn yn cael effaith ddinistriol tymor hwy ar y merched eu hunain a'u teuluoedd. Felly, mae'n rhaid inni wneud mwy o ymdrech i ddargyfeirio cyn y llys. Fe hoffwn i weld mesurau ataliol hyd yn oed yn gynharach i gadw menywod allan o'r system cyfiawnder troseddol; i gadw teuluoedd gyda'i gilydd; i leihau'r angen am wasanaethau mwy acíwt; ac i leihau'r effaith tymor hwy y gall bod yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol ei chael ar y menywod hyn.

Dylid ystyried datblygu dulliau o weithredu wedi'u llywio gan drawma a chydnabod effaith profiadau andwyol plentyndod ar gyfer menywod sy'n troseddu a'u plant, gan ystyried anghenion y menywod hyn a'r teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw gan gam-drin domestig a thrais rhywiol. Gallwn gefnogi merched i aros yn eu cymunedau ac mewn gwaith mewn ffordd well o lawer. Rydym ni eisiau datblygu gwasanaethau sy'n angenrheidiol i gefnogi menywod fel y gallan nhw osgoi bod dan glo yn gyfan gwbl. Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r llysoedd i ailystyried effaith polisi dedfrydu ac effaith dedfrydau byr ar fenywod, gan gynnwys sut y bydd hyn yn effeithio ar y plentyn a'r teulu.

Mae hefyd yn amlwg iawn ac yn fater o frys bod arnom angen ateb newydd i'r ystad carchardai menywod presennol. Bydd angen i ni weithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r gwasanaeth carchardai a phrawf, ond rwyf yn glir pan fydd menyw yn cael ei dedfrydu i'r ddalfa, mae angen iddi hi fod mewn amgylchedd sy'n cefnogi ei hanghenion; cefnogi ei hadsefydlu; a'i chefnogi hi i gadw mewn cysylltiad â'i theulu a'i chymuned.

Hoffwn roi ar y cofnod fy niolch am waith Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, am ei ran yn llwyddiant ymyrryd yn gynnar a dargyfeirio, a'r gwaith allgymorth y mae'n ei wneud ar ddedfrydu ac atal.

O ran menywod yn troseddu, rydym ni wedi cefnogi rhaglen fraenaru i fenywod, i ddargyfeirio menywod rhag mynd i'r ddalfa a darparu amrywiaeth o gymorth. Hoffwn hefyd fynegi fy niolch i'r partneriaid, yn enwedig Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi a'r comisiynwyr heddlu a throseddau sy'n chwarae rhan mewn datblygu prosiect braenaru i fenywod a'r glasbrint drafft ar fenywod sy'n troseddu, am eu holl waith hyd yn hyn.

Dirprwy Lywydd, dros y misoedd nesaf, gyda'n hystod o bartneriaid ac ar draws y Llywodraeth, byddwn yn parhau i ddatblygu ein cynigion i greu cynlluniau pendant a fydd yn rhoi bywyd i'n glasbrintiau ni. Rwyf yn rhagweld, yn y flwyddyn newydd, y byddwn ni mewn sefyllfa i gyhoeddi'r glasbrintiau llawn ac amlinellu ein cynigion yn fanylach drwy gyfrwng cynllun cyflawni. Byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i Aelodau wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.