Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
A gaf i estyn fy llongyfarchiadau i Ysgrifennydd y Cabinet ar gael ei ethol yn arweinydd ei blaid?
Mae i'w groesawu bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu defnyddio'r gyllideb o £26 miliwn sy'n bodoli o ganlyniad i'r cynnydd mewn gwariant gan Lywodraeth Geidwadol y DU i ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi ar gyfer y stryd fawr am flwyddyn arall. Ond, wrth gwrs, ateb dros dro yn unig yw hwn i'r pwysau sy'n wynebu busnesau bach a chanolig yng Nghymru. Yn anffodus, yr hyn yr ydym yn ei wynebu heddiw yw'r lluosydd ardrethi drytaf ym Mhrydain Fawr. Bydd hwn yn cynyddu, rwy'n credu, y baich ar fusnesau bach a chanolig, ac ni all unrhyw ryddhad dros dro oddi ar y swm ardrethi atal y ffaith honno, ynghyd â rhyddhad parhaol isel iawn ar gyfer ardrethi busnes o 100 y cant ar gyfer gwerth ardrethol sy'n llai na £6,000. Bydd busnesau yng Nghymru yn wynebu bargen llawer gwaeth na busnesau cyfatebol yn Lloegr a'r Alban. Gobeithiaf felly y gall Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam y mae'n amharod i fabwysiadu'r hyn yr wyf i a chyd-Aelodau ar y meinciau hyn wedi bod yn galw amdano: diwygio ar raddfa eang y system ardrethi busnes yng Nghymru a rhyddhad ardrethi o 100 y cant ar gyfer y rhai sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000. Y pwynt yr hoffwn i ei wneud yw bod Llywodraeth y DU wedi gosod cynllun busnes ym mis Mawrth 2016 er mwyn egluro i fusnesau beth yw ei gynlluniau ar gyfer ardrethi busnes hyd at 2020 a thu hwnt. Mae hyn yn cynnwys ailbrisio ardrethi busnes yn amlach o fewn cyfnod o dair blynedd o leiaf.
Tybed a ydych chi'n cydnabod, os na chymerir y camau hyn y bydd eich Llywodraeth yn llywodraethu dros wlad sydd yn prysur ddod y wlad lleiaf cystadleuol yn y DU. Yr hyn sydd angen ar Gymru yn fwy nag erioed o'r blaen, yw ymagwedd newydd drwy ddeall yn y lle cyntaf bod busnesau, a buddsoddi mewn busnesau, yn arwain at gyfleoedd ar gyfer swyddi, adfywio ac, yn y pen draw, enillion trethi uwch ar gyfer y Llywodraeth.
Dywedodd y Prif Weinidog heddiw mai un o heriau mwyaf economi Cymru fyddai sicrhau bod busnesau bach yn awyddus i ehangu i fod yn gwmnïau mawr ac yn gallu gwneud hynny, ac rwyf i'n cytuno ag ef. Ond mae ardrethi busnes uwch a lluosydd ardrethi uwch yn mynd i atal y busnesau bach a chanolig hynny rhag ehangu ymhellach. Felly, nid ydym ni'n gallu cefnogi'r Llywodraeth heddiw, oherwydd bod y Gorchymyn yn gadael perchnogion busnes wedi eu llyffetheirio gan drefniadaeth ardrethi busnes hen ffasiwn Llywodraeth Cymru.