– Senedd Cymru am 5:02 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, rydw i'n symud i'r bleidlais a'r bleidlais ar y ddadl ar rwystrau carthffosydd gan UKIP. Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 35 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Sy'n dod â ni at welliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Pleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3. Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, 11 yn ymatal, pedwar yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 3.
Sy'n dod â ni at bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM6898 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Water UK ar ei astudiaeth ynghylch hancesi gwlyb yn blocio carthffosydd.
2. Yn gresynu at y ffaith y ceir tua 2,000 o rwystrau mewn carthffosydd bob mis ledled Cymru ac yr achosir llawer ohonynt gan bobl yn fflysio eitemau traul fel ffyn cotwm a hancesi gwlyb i lawr y toiled.
3. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru gyda chwmnïau dŵr er mwyn pwyso a mesur opsiynau ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem lle y mae defnyddiau traul yn achosi i doiledau flocio.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddeddfu ar gyfer profi cynhyrchion fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm ar sail rheoleiddiol; ac os bydd cynhyrchion o'r fath yn methu prawf newydd y diwydiant dŵr i weld a ellir eu fflysio, rhaid i gynhyrchwyr becynnu'r cynhyrchion hynny gyda logo clir, trawiadol ac amlwg sy'n nodi na ellir eu fflysio.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Dŵr Cymru ac asiantaethau eraill i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran defnyddiau traul er mwyn lleihau rhwystrau yn y system garthffosiaeth.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibiliadau o ddefnyddio trethi newydd i leihau’r defnydd o defnyddiau traul.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, pedwar yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.