Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Egwyddor 'y llygrwr sy'n talu', wrth gwrs, sy'n golygu os mai chi sy'n creu'r gwastraff, chi ddylai dalu'r gost o ymdrin â'i ganlyniadau. Ac yn yr achos hwn, rwy'n credu y dylem gyflwyno cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, a'i gwneud yn ofynnol i'r cwmnïau sy'n gyfrifol am gynhyrchu cymaint o'n gwastraff i gyfrannu at y gost o drin y gwastraff hwnnw. Mae pawb ohonom wedi clywed gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol sut y gallai fod mwy o blastig na physgod yn ein moroedd, o ran pwysau, os nad ydym yn newid pethau erbyn 2050, ac mae hynny'n sobreiddiol iawn.
Nawr, mae yna bryderon difrifol, wrth gwrs, mewn perthynas ag i ble mae ein gwastraff plastig ailgylchu'n mynd, a chlywsom rywfaint am hynny yn y cyfraniadau agoriadol, felly nid wyf am ei ailadrodd. Ond mae'n ein hatgoffa, ac yn dangos i ni'n gynyddol, yn hytrach nag ailgylchu yn unig, fod yn rhaid inni atal y defnydd o blastig, yn enwedig plastig untro, yn y lle cyntaf. A dylid rhoi camau ar waith ar bob lefel o'r Llywodraeth, gyda'r nod o sicrhau dyfodol diwastraff.
Credwn y dylai hyn gynnwys ardoll ar blastig untro i weithio ochr yn ochr â chynllun dychwelyd blaendal ar gyfer poteli a chaniau, er mwyn atal gwastraff rhag digwydd yn y lle cyntaf, ac i wobrwyo ailddefnyddio a chynyddu ailgylchu lle bo angen. Wrth gwrs, Cymru oedd y wlad gyntaf i gyflwyno ardoll ar fagiau siopa, ac mae'n dangos sut y gall cam bach wneud gwahaniaeth mawr iawn. A gwelwyd bod cynlluniau dychwelyd blaendal yn effeithiol iawn hefyd. Mewn gwledydd lle mae cynlluniau o'r fath ar waith, wrth gwrs, rydym wedi gweld lefelau uchel o ailgylchu poteli: dros 90 y cant yn Norwy, Sweden a'r Ffindir, a 98.5 y cant yn yr Almaen, lefelau na allwn ni yng Nghymru ond breuddwydio amdanynt ar hyn o bryd.
Fel y nodwyd yn adroddiad Eunomia ar yr opsiynau ar gyfer cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr yng Nghymru, os yw San Steffan yn penderfynu yn erbyn gweithredu cynllun dychwelyd blaendal neu dreth ar gynwysyddion diod, mae'n dal i fod yn bosibl i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer Cymru yn unig. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod yn bwriadu gweithio gyda Llywodraeth y DU ar sail Cymru a Lloegr ar gamau i fynd i'r afael â gwastraff, ond wrth gwrs, rydym yn dal i aros i weld pa mor bell y bydd camau Llywodraeth y DU yn mynd yn y maes hwn. Ydy, mae'n newyddion i'w groesawu, fel y clywsom, y bydd yna dreth ar blastig defnydd untro, fel y cyhoeddwyd yng nghyllideb y DU ar gyfer 2018, ond mae'n siomedig, o'm rhan i, na fydd treth ar gwpanau untro, ac rydym yn aros am ganlyniad eu hymgynghoriad ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr.
Os nad yw Llywodraeth y DU yn ddigon uchelgeisiol yn ei chynlluniau i atal llygredd plastig, dylai Llywodraeth Cymru arwain y ffordd, fel y gwnaeth gyda bagiau siopa untro. A hoffwn ofyn i'r Gweinidog felly, pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn yn ddiweddar, a pha gynnydd y gallwn ddisgwyl ei weld, oherwydd, os yw'n amlwg na fydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r newidiadau radical rydym eu hangen i fynd i'r afael â'r broblem hon, mae angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo i gyflwyno ei deddfwriaeth ei hun. Mae angen newid ymddygiad ar gyflymder ac ar raddfa nas gwelsom o'r blaen er mwyn mynd i'r afael â'r broblem hon. Yng Nghymru, fe allwn, ac fe ddylem, fynd ymhellach ac yn gyflymach na Llywodraeth y DU ar hyn, yn enwedig pan fo gennym gonsensws clir ar draws Siambr y Cynulliad. Ac felly, rwy'n falch o roi fy nghefnogaeth lawn i'r cynnig deddfwriaethol hwn.