Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Diolch, Llywydd, ac a gaf innau groesawu'r cynnig yma gan yr Aelod, a dweud y byddaf i a Phlaid Cymru yn llwyr gefnogol i hyn? Yn wir, mi roddodd Plaid Cymru gynnig nid annhebyg i lawr ein hunain y llynedd, ac felly fydd hi'n ddim syndod ein bod ni yn cefnogi'r egwyddor yma. Mae angen gweithredu ar frys er mwyn atal plastigau rhag llygru ymhellach ein moroedd, ein hafonydd a'n hamgylchedd ni. Mae'n bwysig yn y cyd-destun yma hefyd ein bod ni'n cofio'r egwyddor bod y llygrwr yn talu.