11. Cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog i Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 8 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:33, 8 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedodd David Melding yn gwbl glir, mae Deddf Llywodraeth Cymru yn nodi:

Na cheir penodi unigolyn sy'n cyflawni swydd y Prif Weinidog, Gweinidog Cymru a benodwyd o dan adran 48 na Dirprwy Weinidog Cymru yn Gwnsler Cyffredinol...ac ni cheir penodi'r Cwnsler Cyffredinol nac unigolyn a ddynodir i'r swydd honno i unrhyw un o'r swyddi hynny.

Nawr, rwy'n tybio y dywedir wrthym na chafodd ei benodi'n Weinidog o dan adran 48, ond, a dweud y gwir, mae ef ei hun yn dweud, fel y sawl a enwebwyd ar gyfer y swydd Cwnsler Cyffredinol, ar ei dudalen Twitter ei fod yn Weinidog Brexit, ac nid bod ganddo gyfrifoldebau dros Brexit. Felly, os yw hynny'n gamgymeriad cyfreithiol, fe adawn ni'r mater yn y fan yna, ond mae ef ei hun yn galw ei hun yn Weinidog Brexit, mae'r Llywodraeth eisoes yn ei alw'n Weinidog Brexit, ac mae'r ddeddfwriaeth yn datgan yn eglur na chaiff Gweinidog gael ei benodi yn Gwnsler Cyffredinol hefyd.