11. Cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog i Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 8 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:28, 8 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf i ddweud nad yw'r sylwadau yr wyf yn mynd i'w gwneud yn adlewyrchu ar yr unigolyn mewn unrhyw ffordd, sy'n rhywun y mae gennyf lawer o barch tuag ato? Ond mae Jeremy Miles wedi'i restru ar wefan Llywodraeth Cymru fel, ac rwy'n dyfynnu, 'y Darpar Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit'. Mae ei ddyletswyddau fel Gweinidog, hyd y gwelaf i, yn cynnwys cadeirio is-bwyllgor y Cabinet ar bontio Ewropeaidd, cronfeydd strwythurol yr UE a'r gronfa ffyniant gyffredin. Cafodd y Prif Weinidog ei longyfarch gan un o Aelodau meinciau cefn y blaid Lafur y prynhawn yma ar benodi Gweinidog Brexit ac ymatebodd y Prif Weinidog i hynny wedyn drwy ddweud ei fod yn credu ei bod hi'n bwysig iawn bod y swyddogaeth o gydgysylltu gan y Gweinidog hwnnw.

Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn dwyn y teitl 'Aelodau'r Cabinet a Gweinidogion', gyda'r is-deitl 'Gwybodaeth am Weinidogion Llywodraeth Cymru a Dirprwy Weinidogion'. Nid yw swydd y Cwnsler Cyffredinol wedi ei rhestru ar wahân ar y dudalen honno. Mae 14 o Weinidogion a Dirprwy Weinidogion wedi eu rhestru, gan gynnwys y Prif Weinidog. Llywydd, mae angen inni gael eglurhad o'r canlynol: sut mae'r trefniant hwn yn cydymffurfio ag adrannau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006, sy'n cyfyngu ar nifer y Gweinidogion i 12, heb gynnwys y Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol? Fy nehongliad i o hynny yw ei fod yn caniatáu ar gyfer 13 o Weinidogion yn ogystal â Chwnsler Cyffredinol. Yn ail ac yn ychwanegol at hynny, sut mae'n cyflawni gofynion adran 49(9) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006? Ac, os caf i ddarllen o honno:

Ni cheir penodi unigolyn sy'n cyflawni swydd y Prif Weinidog, Gweinidog Cymru a benodwyd o dan adran 48 na Dirprwy Weinidog Cymru yn Gwnsler Cyffredinol na'i ddynodi o dan is-adran (6); ac ni cheir penodi'r Cwnsler Cyffredinol nac unigolyn a ddynodir i'r swydd honno i unrhyw un o'r swyddi hynny, h.y. ni chaiff fod yn Weinidog. Yn amlwg, byddwn yn cael rhyw fath o esboniad, ond rwyf yn gweld y cynnig hwn yn dra afreolaidd ac yn un sydd angen eglurhad pellach o leiaf, oherwydd fy mod yn credu ein bod yn torri Deddf Llywodraeth Cymru. Felly, bydd y grŵp Ceidwadol yn ymatal ar y cynnig hwn y prynhawn yma.