3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Diweddaraf ar Drefniadau Pontio’r UE

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 8 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 3:12, 8 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma, ond ni fyddwch chi'n synnu fy mod i'n dal yn siomedig â safbwynt Llywodraeth Lafur Cymru ar y mater hwn. Mewn datganiad a wnaeth eich rhagflaenydd ar 20 Tachwedd y llynedd, cadarnhaodd mai cymharol ychydig oedd angen ei newid er mwyn i Lywodraeth Cymru gefnogi cytundeb presennol Llywodraeth y DU gyda'r UE. Felly, ymddengys fod eich barn wedi newid cryn dipyn o'r safbwynt penodol hwnnw mewn cyn lleied o amser. A wnewch chi ddweud wrthym ni felly beth sydd wedi newid ers hynny?

Nawr, rwy'n sylwi eich bod yn cyhuddo Llywodraeth y DU o roi buddiannau'r Blaid Geidwadol o flaen buddiannau'r DU. Ni allai dim fod ymhellach o'r gwir, o ystyried—[Torri ar draws.] Llywydd, gallaf glywed Aelodau eraill o bleidiau gwleidyddol eraill yn gweiddi. Roeddwn yn gwrtais iddyn nhw wrth wrando ar y Prif Weinidog ac rwy'n disgwyl yr un cwrteisi'n ôl.

Nawr, ni allai dim fod ymhellach o'r gwir, o gofio bod Prif Weinidog y DU wedi ei gwneud hi'n gwbl glir fod y cytundeb a negodwyd gan ei Llywodraeth er budd y DU gyfan, a fydd yn diogelu swyddi ac yn cynnig sefydlogrwydd yn y dyfodol, sef yr hyn yr ydych chi'n dweud yn eich datganiad eich bod chi eisiau ei gyflawni hefyd. Fodd bynnag, ymddengys i mi na all y Blaid Lafur na'ch Llywodraeth benderfynu a ddylai'r DU adael yr UE ai peidio. Mae wyth o'ch Aelodau meinciau cefn eich hun a phedwar aelod o'ch Llywodraeth wedi galw am ail refferendwm. Felly, o ran eglurder y prynhawn yma, a wnewch chi ddweud wrthym ni a yw eich Llywodraeth yn awr o blaid cynnal ail refferendwm ac ai dyma bellach yw polisi swyddogol Llywodraeth Cymru?

Ac rydych chi'n eithaf hyf yn cyhuddo Llywodraeth y DU o fethu cytuno ar ddull y trafodaethau gyda'r gweinyddiaethau datganoledig pan nad oedd eich rhagflaenydd yn estyn gwahoddiad i mi gwrdd i drafod effaith y cytundeb ymadael ar Gymru yn fy swyddogaeth yn arweinydd yr wrthblaid yn y fan yma. Felly, ni fyddaf yn derbyn unrhyw wersi gan eich plaid chi gyda'ch honiadau am y diffyg ymgysylltu ac ymgynghori ystyrlon. Siawns y byddai hi wedi bod yn llawer gwell pe byddai holl arweinwyr y pleidiau wedi cwrdd a thrafod y cynigion i drafod yr effaith y bydden nhw'n eu cael ar Gymru ac ar weithrediad y Cynulliad hwn. Yn wir, rwy'n gwybod bod Prif Weinidog y DU wedi dangos cwrteisi a chynnig trafodaethau ynghylch Brexit gyda llawer o'r gwrthbleidiau, gan gynnwys arweinydd Plaid Cymru.

Nawr, fel y byddech chi'n disgwyl, rwyf wedi cyfarfod nifer o fusnesau bach a mawr yn ddiweddar ac mae'r neges yn glir iawn: maen nhw eisiau cytundeb. Maen nhw'n dweud y bydd 'dim cytundeb' yn cael effaith hynod negyddol ar fusnes ac y byddai'r effaith yn bellgyrhaeddol ac yn niweidiol. Os derbynnir y bleidlais yr wythnos nesaf yn y Senedd—ac rwy'n mawr obeithio y caiff hi—yna mae busnesau'n dweud y gallan nhw gynllunio'r camau nesaf. Byddai'r cyfnod gweithredu cyfyng yn bont i berthynas yn y dyfodol, gyda chaniatâd i alluogi busnesau i barhau i fasnachu fel hyn tan ddiwedd y flwyddyn nesaf. Rwy'n siŵr bod hyn yn rhywbeth y byddai Prif Weinidog Cymru yn ei groesawu. Hebddo, mae llawer iawn o ansicrwydd a gallai'r goblygiadau fod yn ddifrifol iawn. Mae angen inni wrando ar eu rhybuddion dwys a difrifol.

Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi mynegi eu barn yn glir. Maen nhw wedi dweud bod y fargen hon yn gyfaddawd, gan gynnwys ar gyfer busnes, ond mae'n cynnig y cyfnod pontio hanfodol hwnnw fel cam yn ôl o ymyl y dibyn.

Peidiwch â gwrando arnaf i ac ar Gydffederasiwn Diwydiant Prydain yn unig; gwrandewch ar Andy Palmer, Prif Weithredwr Aston Martin, sydd wedi dweud ei farn ar goedd hefyd. Mae wedi dweud bod y cytundeb Brexit sydd ger ein bron yn ddigon da. Mae hi'n amlwg nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrando ar farn glir a chyson y gymuned fusnes, sydd wedi siarad ag eglurder gwirioneddol ar y mater hwn. Felly, ers eich penodiad, pa drafodaethau a ydych wedi'u cael gydag arweinwyr busnes yng Nghymru, gan fod angen inni gael gwybod yr adlewyrchir eu barn yn briodol pan fydd eich Gweinidogion yn parhau i drafod y mater hwn â'ch cymheiriaid yn San Steffan?

Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir wrth ddweud mai'r peth olaf y mae hi eisiau ei weld yw ffin galed rhwng Cymru a'r Iwerddon, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r safbwynt hwnnw. Soniodd eich rhagflaenydd am oblygiadau enfawr hynny, yn arbennig i strwythur y ffyrdd sy'n arwain at ein porthladdoedd. Nawr, dadleuwyd dros ddeuoli'r A40 yn fy etholaeth i, er enghraifft, ers y 1950au, a byddwch yn gwybod y bûm i'n gofyn yn barhaus i Weinidogion y Llywodraeth yn y Siambr hon am addewidion i ddeuoli'r ffordd hon. Fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn ffordd unffrwd, ac rwy'n sôn am hyn oherwydd mae'n un enghraifft yn unig o agwedd lle mae'r cyfrifoldeb gan y Llywodraeth. Felly, mae'n bwysicach fyth fod Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym ni pa gynlluniau sydd ganddi i wella'r strwythur ffyrdd i'n prif borthladdoedd.

Nawr, rwy'n sylwi yn eich datganiad heddiw ichi gyfeirio hefyd at y llif o nwyddau ar draws ffiniau yng Nghaergybi, Abergwaun ac mewn mannau eraill, ac rwy'n deall y buoch chi'n cydweithio'n agos iawn â Llywodraeth y DU ar effaith Brexit yn arbennig ar borthladd Caergybi. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe baech chi'n rhoi'r newyddion diweddaraf inni ynglŷn â chynnydd y gwaith yna.

Gyda hynny o lith, Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad heddiw? Ond mae'n hynod o hawdd i Lywodraeth Cymru feio a beirniadu Llywodraeth y DU. Hoffwn atgoffa Llywodraeth Cymru bod angen iddi hi hefyd edrych ar ei chymwyseddau ei hun, ac rwy'n eich annog chi a'ch Gweinidogion i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU dros yr wythnosau nesaf.