Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 8 Ionawr 2019.
Diolch i Paul Davies am y cwestiynau hynny, Llywydd. Gallaf ei sicrhau bod holl Weinidogion Cymru yn ceisio gweithio'n adeiladol gyda phartneriaid eraill ledled y Deyrnas Unedig ac y byddant yn gwneud hynny yn frwd iawn yn ystod y mis hwn wrth inni ymbrysuro gyda'r paratoadau Brexit. Dydd Llun, bydd fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths yn Llundain eto ar gyfer trafodaethau pedairochrog ar yr economi wledig a'r amgylchedd. Bydd Gweinidogion addysg uwch o bob rhan o'r Deyrnas Unedig yn cyfarfod yng Nghaerdydd yn ystod y mis hwn, eto yn gyfan gwbl ynglŷn â'r agenda Brexit. Rydym ni'n obeithiol y bydd cyfarfod nesaf y Cydbwyllgor Gweinidogion ar negodiadau Ewropeaidd yn digwydd yng Nghaerdydd y mis hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi llwyr ymrwymo i weithio mor adeiladol ag y gallwn ni, ble bynnag y bo'r cyfleoedd hynny yn bodoli.
Ein rhwystredigaeth erioed yw nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud digon o'r cynigion o gymorth yr ydym ni yn gyson wedi eu rhoi ger ei bron ac nad ydyn nhw wedi manteisio ar yr arbenigedd y byddem ni wedi gallu ei gyfrannu i wneud yn siŵr bod y cynlluniau, y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw yn y pen draw, wedi rhoi cymaint o ystyriaeth â phosib i anghenion y gweinyddiaethau a'r gwledydd datganoledig a'r cyfrifoldebau sy'n cael eu cyflawni yma yng Nghynulliad Cymru.
Llywydd, mae arweinydd y Ceidwadwyr yma yn y Cynulliad yn gwybod yn iawn pan gaiff cytundeb Mrs May ei drechu yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos nesaf mai pleidleisiau Aelodau Seneddol Ceidwadol fydd yn dryllio'i chytundeb. Dyna ble bu ei methiant: mae hi wedi methu â darbwyllo ei phlaid ei hun—niferoedd mawr iawn o'i phlaid ei hun. Ac mae'r ffordd yr wyf i wedi beirniadu'r cytundeb y prynhawn yma yn llugoer iawn o'i chymharu ag iaith aelodau o'i blaid—Aelodau Seneddol ei blaid—sydd wrthi'n feunyddiol yn clochdar ar y radio a'r teledu am gytundeb ei Brif Weinidog. Felly, rwy'n credu, pan fydd Llywodraeth Cymru yn siarad â Mrs May, y byddwn ni'n cynnig rhyddhad o'r sgyrsiau y mae'n rhaid iddi eu cynnal gydag aelodau anhydrin y Blaid Geidwadol.
I ni, nid yw'r cytundeb yn ddigon da. Nid yw'n ddigon da oherwydd nid yw'n darparu cyfatebiaeth ddeinamig i'r hawliau dinasyddiaeth a fwynheir mewn rhannau eraill o'r Undeb Ewropeaidd. Nid yw'n benodol yn rhoi cyfle i gyfranogi mewn undeb tollau. Ond fel y dywedodd Prif Weinidog blaenorol Cymru—ac roeddwn i'n cytuno'n llwyr o wrando arno—mae ein gwrthwynebiad i'r cytundeb yn gymharol fach o'i gymharu â'n gwrthwynebiad i'r datganiad gwleidyddol. Dyna'r pwynt yr oedd Carwyn Jones yn ei wneud—o'r ddau beth y bydd pleidlais arnynt gyda'i gilydd, mae gennym ni anawsterau hyd yn oed mwy dyrys a sylweddol o ran y datganiad gwleidyddol truenus nag sydd gennym ni o ran y cytundeb i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Gadewch imi ymdrin â'r sylw olaf a wnaeth yr Aelod, gan ei fod yn gywir wrth ddweud bod ein gwaith ar borthladdoedd gyda Llywodraeth y DU yn enghraifft o sut yr ydym ni wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU. Mae gennym ni weithgor sy'n dod â Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r awdurdodau porthladd ynghyd, ac sy'n cael cyngor gan Gymdeithas y Gyrwyr Lorïau ac eraill, i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni, fel pe byddai sefyllfa o 'dim cytundeb' yn codi, yna o ran yr effaith ar ein porthladdoedd, yn enwedig o ran Caergybi, fe fyddai gennym ni gynllun ar waith i ymdrin â hynny. Oherwydd bod hynny'n golygu defnyddio tir y tu hwnt i'r porthladd ei hun, mae'r cynlluniau hynny o reidrwydd—fel rwy'n gwybod y bydd yn deall—ar yr adeg hon yn fasnachol gyfrinachol am eu bod yn cynnwys trafodaethau gyda phartïon eraill. Ond gallaf gadarnhau'r hyn a ddywedodd Paul Davies: y bu'r cydweithio hwnnw'n gyson dros y misoedd diwethaf a bod gwaith da ac ymarferol yn cael ei wneud i liniaru'r gwaethaf o'r effeithiau y byddwn ni'n eu gweld mewn porthladdoedd yng Nghymru petai'r trychineb o gael Brexit 'dim cytundeb' yn digwydd.