3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Diweddaraf ar Drefniadau Pontio’r UE

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 8 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:37, 8 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Oherwydd, yn amlwg, mae hon yn broses gyfnewidiol iawn—rydym ni'n gwybod beth a ddigwyddodd cyn y Nadolig, ac rydym ni'n dal i weld y castiau yn San Steffan heddiw. A gaf i hefyd dynnu sylw at y ffaith fy mod i'n credu bod y Torïaid ar fy llaw chwith mewn gwirionedd yn gwadu'r anhrefn yn San Steffan? Oherwydd, os na allwch chi weld yr anhrefn, yna mae'n rhaid eich bod chi'n ddall neu'n gwisgo sbectol dywyll, oherwydd mae hi'n draed moch llwyr yn San Steffan gyda'r Torïaid mewn grym. Prif Weinidog, a gaf i hefyd groesawu penodiad Gweinidog Brexit yma yn eich Llywodraeth? Oherwydd ei bod hi'n bwysig bod gennym ni rywun i gydgysylltu. Fe wnaethoch chi eich hunan ymgymryd â'r swyddogaeth honno, mewn ffordd, yn y Llywodraeth flaenorol—rydych chi'n gwybod am y cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â hynny, ac felly mae cydgysylltu hynny'n hanfodol drwy'r Llywodraeth. Rwy'n croesawu hynny'n fawr.

A gaf i ofyn ychydig o gwestiynau difrifol, oherwydd fy mod yn credu bod yr hyn a glywn ni weithiau yn fwy o faldodi eu cynulleidfaoedd eu hunain nag unrhyw beth arall? A wnewch chi roi rhyw syniad inni o'r amserlenni o ran pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno biliau newydd? Oherwydd, yn y cyfnod pontio—. Os ydym ni yn y pen draw yn gadael ar 29 Mawrth heb gytundeb, fe fydd gennym ni sefyllfa fwy argyfyngus na fydd gennym ni os cawn ni gyfnod pontio pryd— a, gadewch inni fod yn onest, y cyfnod pontio, rydych chi'n sôn am fis Rhagfyr 2020. Wel, mae etholiadau Senedd Ewrop ym mis Mai eleni, bydd angen penodi'r Comisiwn, felly mae'n debygol y bydd hi'n fis Hydref cyn y bydd y Comisiwn newydd yn ei le. Ac, os ydyn nhw eisiau ymestyn y trafodaethau yn ystod y cyfnod pontio, mae'n rhaid gwneud hynny erbyn 1 Gorffennaf. Mewn gwirionedd mae hynny'n rhoi tua naw mis, ac mae bron yn amhosibl mewn gwirionedd i gyflawni popeth yr ydych chi eisiau ei gyflawni yn y naw mis hynny. Felly, fe fydd amserlenni tynn iawn. Felly, pryd fyddwn ni'n gweld Biliau gan Lywodraeth Cymru—Bil diwylliant, Bil pysgodfeydd, Bil amgylcheddol a Biliau eraill—fel y gallwn ni sicrhau ein bod ni mewn sefyllfa lle'r ydym ni mewn gwirionedd wedi pasio Biliau sy'n adlewyrchu'r meysydd y mae gennym ni gyfrifoldeb drostyn nhw?

A gaf i ofyn hefyd a ydych chi wedi ystyried pa un a oes angen cael cyrff llywodraethu amgylcheddol newydd yng Nghymru? Oherwydd bod llawer o'r offerynnau statudol sydd ar eu hynt yn cyfeirio mewn gwirionedd at 'Ysgrifennydd Gwladol' ac nid o reidrwydd at gyrff newydd yng Nghymru. Felly, a fydd yna unrhyw gyrff newydd yng Nghymru y mae'n rhaid ichi eu sefydlu i sicrhau y gallwn ni fodloni'r rhwymedigaethau presennol sydd gennym ni? Ynglŷn â'ch adolygiad o ran y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a grybwyllwyd gan arweinydd Plaid Cymru yn ei gwestiynau i chi yn ystod y Cwestiynau i'r Prif Weinidog—ni wnaeth mewn gwirionedd ofyn y cwestiwn ynghylch pryd fydd yr adroddiad hwnnw, ac, o ganlyniad i'r adroddiad hwnnw, pryd welwn ni amcan polisi yn gweld golau dydd i edrych ar sut y gall datblygu rhanbarthol yng Nghymru gysylltu â'r cynllun gweithredu economaidd, fel, wrth inni golli cronfeydd strwythurol Ewropeaidd, y gallwn ni mewn gwirionedd fod â rhywbeth yn barod i ddatblygu adfywiad economaidd yr ardaloedd hynny.

A gaf i ofyn hefyd a ydych chi wedi cael cyfle i gwrdd â Michel Barnier eto, neu a fyddwch chi'n cyfarfod ag ef, oherwydd mae hi'n bwysig ein bod yn cadw ein cysylltiadau yn Ewrop—[Torri ar draws.] —? Mae'n bwysig inni gadw'r cysylltiadau yn Ewrop—ar gyfer ffonau symudol os dim byd arall—[Chwerthin.]—i sicrhau bod y trafodaethau a gawn ni ar ôl Brexit yn caniatáu i Gymru fod yn aelod gweithgar o'r cymunedau yn Ewrop, yn arbennig oherwydd bod cyfran fawr o allforion o Gymru yn mynd i'r farchnad honno. Er enghraifft, rwy'n gwybod eich bod wedi sôn bod Prif Weinidog Cymru—cyn Brif Weinidog Cymru—wedi edrych ar fodel Norwy, ond, wrth gwrs, mae'n cael ei drafod bellach fel model Norwy plws. A ydych chi wedi cael cyfle i ddechrau edrych a oes unrhyw rinwedd mewn model tebyg i Norwy plws ac ym mha fodd y byddai'n fwyaf addas, ac a fyddai'n werth trosglwyddo'r agenda honno i'r DU?

A chwestiwn pellach yw'r fframweithiau. Mae fframweithiau cyffredin yn cael eu trafod. O'r hyn a wnaethoch chi ddweud wrth y pwyllgor ddoe, rydym ni'n llwyddo'n dda iawn gyda'r rheini, ac maen nhw'n mynd rhagddyn nhw'n dda, ond a fyddan nhw ar waith erbyn 29 Mawrth os byddwn yn gadael heb gytundeb? Oherwydd, yn amlwg, os ydym ni'n gadael heb gytundeb, ni fydd gennym ni unrhyw fframweithiau Ewropeaidd i ufuddhau iddyn nhw; bydd yn rhaid inni ddefnyddio fframweithiau'r DU. A fyddan nhw, felly, yn barod erbyn 29 Mawrth, sef y dyddiad ymadael, o bosib, rwy'n credu? Oherwydd mae gennyf wir ofn y byddwn yn gadael heb gytundeb os na chaiff ei chytundeb hi ei dderbyn yr wythnos nesaf, oherwydd rwy'n gweld prosiect ofn—y prosiect ofn go iawn—yn dweud wrth y rhai sydd eisiau gadael, 'os nad ydych chi'n pleidleisio dros fy nghytundeb i, ni chewch chi Brexit', ac yn dweud wrth y rhai sydd eisiau aros, 'os nad ydych chi'n pleidleisio dros fy nghytundeb i, ni chewch chi gytundeb', gan eu dychryn felly i bleidleisio dros rywbeth y gwyddom ni nad yw'n mynd i fod o fudd i bobl Cymru.