Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 8 Ionawr 2019.
Llywydd, hoffwn ddiolch i David Rees am y cwestiynau. Dechreuaf drwy ddweud, fel y dywedais wrth Adam Price, rwy'n credu y buom ni'n fwy effeithiol yn dylanwadu ar y ddadl sylfaenol hon pan ydym ni wedi gallu siarad ag un llais, felly rwy'n credu bod gwaith y pwyllgor y mae David Rees yn ei gadeirio wedi dylanwadu hefyd ar y ffordd y mae'r pwyllgor hwnnw wedi gweithio gyda'r pwyllgorau cyfatebol mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i wneud yn siŵr bod cyfrifoldebau'r deddfwrfeydd yn cael eu mynegi'n briodol yn y ddadl.
Pan sefydlais Gabinet ychydig cyn y Nadolig, Brexit oedd flaenaf yn fy meddwl. Dyna pam yr oeddwn i eisiau i Weinidogion allweddol gyda chyfrifoldebau sylweddol o ran Brexit aros yn y swyddi hynny fel y byddai gennym ni barhad o ran goruchwyliaeth wleidyddol ym maes iechyd, yn yr economi wledig, ac yn ein heconomi yn fwy cyffredinol. Dyna pam yr oeddwn i eisiau penodi rhywun yn y Llywodraeth a fyddai'n gallu cydgysylltu gwaith drwy'r Llywodraeth gyfan mewn cysylltiad â Brexit ac i gynrychioli Cymru mewn fforymau allweddol, a dyna pam yr oeddwn i'n awyddus i greu portffolio Cabinet newydd, y mae fy nghyd-Aelod Eluned Morgan bellach yn gyfrifol amdano, ac sydd yn bodoli i wneud yn siŵr, ar ôl Brexit, ein bod ni'n gwneud hyd yn oed mwy o ymdrech nag a wnaethom ni yn y gorffennol i gadw enw da Cymru'n fyw, wel, yn hysbys mewn rhannau eraill o'r byd. Ac, wrth ateb cwestiwn David Rees ynghylch hynny, rwy'n siŵr y bydd yn gweld sut y mae hynny wedi'i adlewyrchu yn y ffordd y cynlluniwyd y portffolios.
I ddod at nifer fach o'i gwestiynau penodol, rwy'n cytuno ag ef nad oedd cyfnod pontio gyda therfyn arall o 31 Rhagfyr 2020 erioed yn ffordd synhwyrol i negodi hynny. Rwyf wedi dweud hynny dro ar ôl tro, ynghyd â Gweinidogion yr Alban, yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, ei fod yn ffordd ddiffygiol o lunio'r cyfnod pontio. Ond mynnwyd bod y dyddiad yn sefyll—David Davis a fynnodd hyn, pan oedd yn dal yn Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel arall byddai'n gadael y Cabinet. Wel, ni chadwodd hynny mohono yno'n hir ac mae'r gwaddol yn un y bydd yn rhaid i ni i gyd ymdrin ag ef, oherwydd nid wyf yn credu y gallwn ni gwblhau popeth y bydd angen ei wneud yn y cyfnod pontio o fewn y cyfnod hwnnw.
Rydym ni ar fin ymgynghori ynghylch creu corff amgylcheddol newydd i Gymru. Bydd adolygiad Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn adrodd o fewn ffrâm amser o ddwy flynedd. Nid yw hynny gymaint ynglŷn â chael cyngor am yr amcanion polisi, oherwydd ein bod ni eisoes wedi cyhoeddi gwybodaeth am ein hamcanion polisi ar gyfer datblygu economaidd rhanbarthol, mae ynglŷn â'r fethodoleg o ran cyflawni'r amcanion hynny, yr arferion gorau mewn mannau eraill yn Ewrop a byddwn yn edrych ar adolygiad Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i'n helpu ni gyda hynny. Rwyf eto i gwrdd â Michel Barnier. Rwy'n gwybod bod Cadeirydd y pwyllgor wedi gwneud hynny, ac, yn sicr, fe wnaeth Prif Weinidog blaenorol Cymru hynny, ac edrychaf ymlaen at allu chwarae fy rhan yn gwneud yn siŵr y cyflwynir barn Cymru gerbron uwch aelodau'r Undeb Ewropeaidd dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Yn olaf, ynglŷn â'r sylw am y fframweithiau, i gadarnhau'r hyn a ddywedais wrth y pwyllgor ddoe, sef y buwyd wrthi'n ddiwyd yn gweithio ar y fframweithiau. Mae'r gwaith, ar y cyfan, wedi mynd rhagddo'n weddol dda. Mae adroddiad ynglŷn â'r cynnydd ymhob un o'r 24 o feysydd fframwaith i fod i gael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar negodiadau Ewropeaidd. A fydd popeth y mae angen eu rhoi ar waith yn barod erbyn 29 Mawrth? Wel, rwy'n amau hynny, ond nid yw hynny'n golygu nad yw pob ymdrech y gellir ei wneud yn cael ei wneud yn y cyfnod cyn y dyddiad hwnnw.