Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 8 Ionawr 2019.
Fe hoffwn i ddiolch i'r Athro Holtham am gynhyrchu adroddiad craff arall, a fydd yn helpu i lywio un o'r penderfyniadau mwyaf sy'n wynebu ein cenedl: sut ydym ni'n talu am ofal cymdeithasol? Ni all neb wadu bod hyn yn bryder dybryd. Mae gofal cymdeithasol mewn argyfwng, fel y nododd y pwyllgor iechyd. Mae lefel presennol y cyllid yn annigonol i ddiwallu'r galw presennol, heb sôn am yr angen yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi'r bai ar gyni. Mae'r wrthblaid yn rhoi'r bai ar Lywodraeth Cymru. Ond mae'r ddau yn gywir. Mae cyni wedi arwain at doriadau anghynaladwy, ond mae'r ffordd y cafodd y toriadau eu gweithredu yn amlwg yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Leol wedi torri gwasanaethau gofal cymdeithasol at yr asgwrn yn y blynyddoedd diwethaf, ac eto fe gawsant rwydd hynt i greu cronfeydd wrth gefn enfawr. Caniatawyd i fyrddau iechyd gamreoli eu harian, ac nid y nhw yn unig. Mae cyrff Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn y penawdau yn y misoedd diwethaf o ganlyniad i gamreolaeth ariannol. Ni fydd neb yn ennill yn y gêm yma o fwrw'r bai. A thra bo gwleidyddion yn ymgecru ynghylch pwy sydd ar fai, mae pobl sydd mewn angen dybryd am ofal cymdeithasol yn dioddef. Un peth y mae pob ochr yn gytûn yn ei gylch yw yn y dyfodol bydd y galw yn fwy na'r hyn y gallwn ni ei dalu am ofal cymdeithasol.
Mae Cymru'n wynebu newid demograffig anferthol yn y degawdau i ddod. Bydd y nifer o oedolion o oedran gweithio yn llai o lawer na'r nifer o bobl wedi ymddeol, a bydd nifer y bobl sy'n byw gyda salwch cronig hirdymor yn cynyddu'n sylweddol yn ôl pob argoel. Felly, mae angen inni sicrhau ein bod ni'n cynllunio ar gyfer y newidiadau sydd i ddod, i sicrhau bod gennym ni ddigon o arian i ddarparu gofal cymdeithasol o ansawdd gwych a sicrhau beth bynnag fo ffynhonnell y cyllid hwnnw, ei fod yn deg.
Mae adroddiad Gerry Holtham yn rhoi un syniad inni ynghylch sut i dalu am ofal, ond nid ni, y gwleidyddion, ddylai benderfynu mewn gwirionedd, gan fod angen sgwrs genedlaethol ynghylch y ffordd orau o dalu am ofal—ffordd sydd yn dderbyniol i bawb. Yn bersonol nid wyf yn credu mai codi treth incwm yw'r ateb, ond eto i gyd nid fy mhenderfyniad i yw hynny. Mae gan y cyhoedd yng Nghymru yr hawl i benderfynu beth fyddai'r dull mwyaf teg a chyfartal o dalu am ofal cymdeithasol. A ydym ni am gwtogi ar feysydd eraill o wariant? A ydym ni am godi treth incwm? A ddylem ni gynyddu yswiriant gwladol? A fyddai yswiriant gofal cymdeithasol newydd yn ateb? Dylai'r holl ddewisiadau gael eu trafod, a beth bynnag fo dewis y rhan fwyaf, dyna'r dewis y dylem ni ei weithredu. Ein gwaith ni yn awr yw dechrau'r sgwrs honno, ei hwyluso a sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan.
Beth bynnag fydd y modd o dalu am ofal cymdeithasol a gaiff ei ddewis, mae'n rhaid inni sicrhau tegwch rhwng y cenedlaethau a sicrhau y defnyddir yr arian a godir i dalu am ofal cymdeithasol rheng flaen, nid am fwy o fiwrocratiaeth llywodraeth leol. Fel y dywedodd Dai Lloyd, nid yw'n ymwneud â chyllid yn unig; mae'n ymwneud â sut yr ydym ni'n darparu'r gofal. A allwn ni ddarparu gofal mewn ffordd fwy cynhwysfawr? Sut allwn ni wella'r gofal a dderbynnir a sut allwn ni sicrhau bod ein gofalwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn cael yr hyfforddiant priodol? Mae gennym ni argyfwng ar y gorwel, ac mae angen inni fel cenedl benderfynu sut y byddwn yn ei wynebu. Diolch yn fawr.