8. Dadl: Adroddiad Holtham ar Dalu am Ofal Cymdeithasol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 8 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:05, 8 Ionawr 2019

Cyn gwneud ychydig o sylwadau am adroddiad yr Athro Holtham ei hun, mi hoffwn innau wneud sylw neu ddau ynglŷn â'm mhrofiad i a rhai o'm hargraffiadau i ynglŷn â'r gofal sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd. Rydw innau, yn fy etholaeth i, cyn y Nadolig ac ar adegau eraill o'r flwyddyn, wedi gweld gofal annwyl iawn yn cael ei ddarparu i bobl mewn cartrefi gofal yn fy etholaeth i gan bobl sydd ar gyflogau isel iawn, ond eu bod nhw'n gwneud hynny oherwydd eu bod nhw'n gweld y swydd honno fel galwad iddyn nhw. Rydw i'n gweld diffyg gwlâu yn lleol ar gyfer pobl sydd yn methu fforddio talu am eu gofal eu hunain. Rydw i'n gweld adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn ein hawdurdodau lleol ni yn methu fforddio talu am y math o ofal y bydden nhw'n hoffi ei ddarparu ar gyfer pobl ar hyd a lled Cymru. Rhywsut, mae'n rhaid i, onid oes, anelu am y math o drefn gynaliadwy yma y mae pob un ohonom ni'n dymuno ei gweld.

Ydyn, mae demographics yn newid ac mae costau yn mynd i fynd yn uwch wrth i ni gael mwy o boblogaeth hŷn, ond y cwestiwn sylfaenol yn fan hyn ydy: sut ydym ni'n gallu rhannu'r gost honno ar draws y gymdeithas a sicrhau bod pawb yn cyfrannu tuag at y gost ychwanegol yn hytrach na gadael i'r bobl sydd yn gallu fforddio talu am eu gofal eu hunain—pobl ffodus iawn, fel y rhan fwyaf ohonom ni yn y Cynulliad yma—gadael i ni dalu wrth adael i'r bobl eraill sy'n methu fforddio obeithio bod yna ryw drefn newydd yn dod? Mae'n rhaid i ni gael trefn newydd, ac mi hoffwn i weld diwylliant gwahanol. Rwy'n cytuno'n fawr efo Jenny Rathbone fod angen i ni gael gwedd mwy cymunedol, mewn rhyw ffordd, i'r gofal rydym ni'n ei ddarparu ar gyfer pobl a chyflwyno llawer mwy o elfennau o systemau cydweithredol ac ati ar gyfer darparu gofal yn ein cymunedau ni. Felly, mae angen newid diwylliant, ond oes, mae angen newid polisïau hefyd.  

Rydw i'n ddiolchgar iawn i'r Athro Holtham am ddarparu ei syniadau o ynglŷn ag un model y gallem ni fod yn edrych arno fo. Mae angen meddwl y tu allan i'r bocs oherwydd bod yr heriau yn mynd i fod yn tyfu gymaint mewn blynyddoedd i ddod. Mae gen i nifer o amheuon ynglŷn â'r math o fodel y mae o yn ei argymell. Nid ydy o'n berffaith glir i mi ai lefi sy'n cael ei argymell yma i gymryd lle y costau y mae pobl yn eu talu am ofal cymdeithasol ar hyn o bryd ynteu ffynhonnell ychwanegol o arian. Os mai sôn ydym ni am gyflwyno lefi a gofyn i bobl gario ymlaen i dalu am eu gofal eu hunain, wel, yn amlwg mae hynny yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni sylweddoli sy'n her wleidyddol i drio ei gwerthu i bobl. Os, ar y llaw arall, beth sydd yma ydy lefi sydd i fod i dalu am yr holl gostau sy'n dod o'r pwrs cyhoeddus ar hyn o bryd, rydw i'n meddwl o bosib fod yna aneglurder yn y ffigurau ariannol sy'n cael eu crybwyll yn yr adroddiad. Mae'n sôn am £550 miliwn fel cost gofal cymdeithasol—mae'r gost mewn difrif yn £750 miliwn jest ei bod hi'n digwydd bod £200 miliwn o hynny'n dod mewn costau gan bobl. Felly, mae'r ffigur sy'n ganolog i'r cynnig yma gan yr Athro Holtham, i mi, ychydig bach yn aneglur. Felly, o bosib gall y Llywodraeth egluro—a ydych chi'n deall mai lefi i gymryd lle costau neu i greu cronfa ychwanegol ydy hwn?

Hefyd, mae'r ffigurau'n ymwneud â gofal cymdeithasol ar gyfer pobl dan 65 oed yn yr adroddiad yma. Mae yna lawer o alw am ofal, wrth gwrs, ar gyfer pobl dan 65—sori, dros 65 ydy'r adroddiad yma. Mae'r mater hefyd o'r blynyddoedd y byddwn ni'n aros i'r gronfa yma fod yn talu allan. Tybed beth ydy barn y Llywodraeth ynglŷn â sut y byddem ni'n talu am ofal rŵan tra'r ydym ni'n disgwyl i'r gronfa gyrraedd at bwynt lle y byddai'n gallu talu allan.  

Ond yn olaf, rwy'n meddwl, yn dod yn ôl at sylwadau Dai Lloyd, mae'n dweud llawer rwy'n meddwl ei bod hi wedi cymryd degawdau ers sefydlu y gwasanaeth iechyd i ni ddod at y pwynt yma rŵan lle rydym ni'n meddwl, 'O, sut ydym ni'n gallu cael gwasanaeth gofal hefyd?' Mewn difri, o bosibl, beth ddylem ni fod yn ei wneud go iawn ydy nid sôn am sut rydym ni'n mynd i greu £400 miliwn yn flynyddol ar gyfer gofal cymdeithasol, ond sut rydym ni'n gallu edrych ymlaen at greu biliynau yn rhagor ar gyfer gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae'r ffaith ein bod ni yn trafod yr elfen gofal cymdeithasol yma yn ynysig, ar ei ben ei hun, yn dangos i fi ein bod ni'n llawer pellach nag y dylem ni fod o feddwl am wasanaeth integredig ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Ond fel rydw i'n dweud, rydw i'n ddiolchgar am gael y papur yma, ac rydw i'n edrych ymlaen at drafodaeth ehangach yfory yn sgil adroddiad y Pwyllgor Cyllid.