Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 9 Ionawr 2019.
Wel, fel y dywedais wrth ateb cwestiynau yn gynharach, rydym yn gwneud yr hyn a allwn i gefnogi'r sector addysg bellach, yn fwyaf diweddar drwy ddarparu adnoddau ychwanegol iddynt fynd i'r afael â mater cyflogau, a dyna oedd y peth iawn i'w wneud mewn partneriaeth â hwy. O ran dyfodol addysg i oedolion, byddwch yn gwybod bod y Llywodraeth wedi cwblhau ymgynghoriad ar ddyfodol addysg i oedolion yn ddiweddar, ac ar hyn o bryd, rwy'n ystyried ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw a byddaf yn gwneud datganiad yn y Siambr pan allaf wneud hynny a phan fyddaf yn sicr o fy ffordd ymlaen.