Mynediad i Ddysgu Gydol Oes

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 9 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:09, 9 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer yr oedolion sy'n mynd ar drywydd cyfleoedd dysgu gydol oes yn ein colegau addysg bellach. Fodd bynnag, mae'r sector yn dal i ddarparu cyfleoedd dysgu i bron 65 y cant o'r 250,000 o oedolion sy'n ddysgwyr yng Nghymru. Mae'r sector addysg bellach yn wynebu argyfwng ariannu o ganlyniad i doriadau diweddar. Pa asesiad y mae eich Llywodraeth wedi'i wneud o effaith y toriadau hyn ar gyfleoedd dysgu gydol oes?