Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 9 Ionawr 2019.
Ie, mae yma her ynghylch argaeledd ehangach meddyginiaethau generig a'u defnydd o fewn ein system gofal iechyd gyfan. Yna, ceir yr her gysylltiedig, ond ychydig yn wahanol, o wneud y defnydd gorau o sgiliau ein staff o fewn y system, ac mae fferyllwyr yn bendant yn rhan o hynny. Rydym wedi sôn ar sawl achlysur, yn y lle hwn a thu hwnt, am wneud gwell defnydd o'r sgiliau sydd gan fferyllwyr, nid yn unig mewn perthynas â chynorthwyo eu cydweithwyr mewn gofal sylfaenol, ond o ran bod yn bwynt cyswllt i roi cyngor i ddinasyddion, ac os oes angen, i ddarparu meddyginiaeth ar bresgripsiwn. Felly, nid yn unig o safbwynt ein paratoadau ar gyfer Brexit 'dim bargen' trychinebus, ond yn fwy cyffredinol o ran gwella effeithiolrwydd a gwerth am arian a'r profiad o iechyd a gofal, rwy'n disgwyl y byddwn yn gwneud defnydd mwy fyth o'r sgiliau a'r arbenigedd sydd gan fferyllwyr i'w cynnig.