Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 9 Ionawr 2019.
Mae etholwr wedi cysylltu â fy swyddfa y bore yma, Weinidog, yn hynod o bryderus am nad yw'n gallu cael gafael ar gyffur penodol y mae ei angen arni er mwyn rheoli ei hepilepsi, er bod y cyffur ar gael yn ddidrafferth mewn fferyllfeydd yn Lloegr. Enw'r cyffur y cyfeiriaf ato yw Epilim Chrono, cyffur rhyddhad araf. Nawr, eglurodd i staff fy swyddfa y bore yma y bydd ei chyflenwad o'r cyffur yn dirwyn i ben cyn bo hir. Felly, a wnewch chi edrych ar y mater hwn ar frys i sicrhau y gall fy etholwr gael y cyffur penodol hwn o fferyllfa leol yma yng Nghymru? Ac os ymrwymaf i ysgrifennu atoch y prynhawn yma, a gaf fi ofyn ichi ymateb ar fyrder, Weinidog?