Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 9 Ionawr 2019.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon ac yn wir, o fod wedi bod yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid a chymryd rhan yn adroddiad adolygiad y Pwyllgor Cyllid. Roedd yn ymchwiliad a ysgogai'r meddwl am fater sydd, fel y dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, yn peri pryder cynyddol ac a ddylai beri pryder cynyddol i bob un ohonom. Fel y clywsom, mae cyfran y bobl hŷn yng Nghymru wedi bod yn cynyddu dros y degawd diwethaf, ac mae'r rhagolygon yn dangos y bydd y duedd hon yn parhau. Mae cwestiynau difrifol i'w hateb o ran y lefel o adnoddau sydd ar gael ar gyfer cynnal gwasanaethau a'r pwysau arnynt.
Felly, i ble yr awn oddi yma? Dyna y ceisiwyd ei ateb yn yr adroddiad. Wel, fel y dywedwyd, mae'r Athro Gerry Holtham wedi awgrymu cronfa yswiriant cyffredin i dalu am gostau gofal cymdeithasol i oedolion yn y dyfodol, ac edrychodd y pwyllgor ar hyn, yn ogystal ag atebion eraill posibl, a dof at y rheini mewn munud.
Yn gyntaf oll, hoffwn gyfeirio'n fyr at rai o'n prif argymhellion, ac mae argymhelliad 1 yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu mwy o ymchwil wedi'i dargedu, fel bod gennym y data mwyaf diweddar a manwl gywir ar gyfer seilio amcanestyniadau ar gyfer y dyfodol arnynt, ac fel y gwyddom o brofiad, hyd yma mae rhai o gyfyngiadau'r data ar Gymru yn unig wedi bod yn broblem i'r Cynulliad hwn. Mae argymhelliad 2 yn galw am adolygiad llawn o asesiadau gofalwyr ac i weld a yw'r Ddeddf wedi darparu cymorth mwy cadarn i ofalwyr ar lawr gwlad mewn gwirionedd—sef ei holl fwriad.
Nawr, edrychodd ein hymchwiliad ar natur fregus y farchnad ddarparwyr, ac roedd y dystiolaeth a ddarparwyd ar ein cyfer yn awgrymu bod y farchnad wedi bod yn fregus ers cryn dipyn, ac mae hyn yn arwain at gynyddu'r adnoddau mewnol a ddefnyddir gan awdurdodau lleol er mwyn ceisio lleihau'r risg i'r sector annibynnol. Nododd y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru sut y mae rhai darparwyr yn dychwelyd eu contractau i awdurdodau lleol, am na allant ddarparu gwasanaethau ar lefel y ffi a osodwyd. Felly, pa ffordd bynnag yr edrychwch arni, mae hon—dros y tymor hwy—yn sefyllfa anghynaliadwy.
Os caf ddweud ychydig am y pwysau ar y gweithlu a chadw gweithwyr, cafodd y pwyllgor lawer o dystiolaeth a dynnai sylw at yr anawsterau i recriwtio staff i'r sector gofal cymdeithasol yn y lle cyntaf, a chadw'r staff hynny wedyn. Dywedodd Fforwm Gofal Cymru y gall gweithwyr gofal ennill mwy drwy lenwi silffoedd yn aml na thrwy weithio yn y sector, ac mae hynny'n anhygoel, neu dyna'r canfyddiad, o leiaf, ac ni all hynny fod yn iawn. Rwy'n falch fod y Gweinidog wedi ymrwymo i godi proffil gweithwyr gofal cymdeithasol fel y gellir ei weld fel dewis gyrfa mwy cadarnhaol, gan fod hynny'n sicr ar goll o'r dystiolaeth a gawsom gan y sector. Ond mae angen inni wneud mwy na hynny; mae'n fwy na chanfyddiad. Mae angen inni gadw'r gweithwyr hynny ar ôl eu recriwtio.
Gan symud ymlaen at yr ardoll gofal cymdeithasol arfaethedig y cyfeiriodd y Cadeirydd ati a'r ateb y mae'r Athro Gerry Holtham yn ei ffafrio a'i elfennau allweddol, sef cyfraniadau a wneir fel cyfran o incwm, gyda chyfraddau'n aros yn gyson drwy gydol oes yr unigolyn, er y byddent yn uwch po hynaf y bo'r unigolyn wrth ymuno â'r cynllun. Roedd yr Athro Holtham yn onest iawn a dywedodd y byddai angen gwneud rhagor o waith i weld a fyddai gennych raddfa symudol, er enghraifft, ar gyfer cyfrannu neu gyfradd sefydlog—awgrymodd 1.5 y cant. Felly, mae yna nifer o newidynnau.
Cyfaddefodd yr Athro Holtham hefyd nad oedd sicrwydd fod ei awgrym i wrthdroi'r dirywiad o 20 y cant a nododd yn y gwariant fesul y pen o'r boblogaeth yn ddigon i fynd i'r afael â'r problemau sy'n ein hwynebu. Dywedodd y gallai fod yn well sôn am oddeutu 23 y cant ar y pen uchaf neu 17 y cant ar y pen isaf ac y gallai'r naill neu'r llall o'r rhain weithio, neu beidio â gweithio, ac y byddai angen gwneud llawer iawn mwy o waith i ddarganfod ar ba lefel yn union y byddai angen ei osod.
Hefyd, wrth gwrs, mae'r cwestiwn pwysig ynglŷn â sut y mae gwerthu hyn oll i'r cyhoedd. A ydych yn cyfeirio at y cynllun newydd fel ardoll—treth i bob pwrpas—neu a ydych yn ei labelu fel yswiriant gorfodol? Wrth gwrs, hyd yn oed os gwnewch yr olaf, gallai ddod i gael ei hystyried fel treth beth bynnag, felly mewn rhai achosion o bosibl, waeth i chi fynd amdani ar hynny, ond rhaid i'r cyhoedd gael gwybod bod problem fawr yma a rhaid iddynt fod ar ein hochr ni o ran dod o hyd i ffordd o'i datrys.
Yn hollbwysig, rwy'n credu, rhaid i hyn gael cefnogaeth drawsbleidiol a hirdymor. Dyna'r unig ffordd y bydd hyn yn gweithio ac yn cael ei dderbyn. Hefyd, rhaid ichi gael cytundeb ynglŷn â sut i dalu costau'r rhai nad ydynt o bosibl wedi gwneud unrhyw gyfraniadau sylweddol ar hyd eu hoes o ganlyniad i salwch neu fethu gweithio am resymau eraill.
Felly, a ydym am gael ardoll ar wahân neu ei hymgorffori yng nghyfradd Cymru o'r dreth incwm? Bydd yr opsiwn hwnnw'n agored i Lywodraeth Cymru cyn bo hir. Mae'r olaf yn ffordd symlach o wneud pethau, fel y dywedodd y cyn-Weinidog cyllid, ac mae'r strwythur yn ei le, ond unwaith eto, efallai y bydd angen i'r cyhoedd weld yn glir fod y swm sy'n cael ei gasglu yn mynd tuag at eu gofal cymdeithasol.
Felly, yn olaf, dywedodd y Gweinidog—neu'r cyn-Ysgrifennydd Cabinet, fel yr oedd—mai ateb DU gyfan fyddai'r ateb gorau yn ôl pob tebyg a gallaf weld ei resymau dros ddweud hynny. Mae'r costau mor fawr fel y byddai lledaenu hyn ar draws y DU yn fanteisiol mae'n debyg. Ond wedi dweud hynny, os mai Cymru fydd yn arwain ar hyn yn y pen draw, boed hynny fel y bo. Mae hwn yn fater na ellir ei anwybyddu mwyach. Rhoddodd yr adroddiad ddarlun go llwm i ni, ond roedd yn cynnwys nifer o atebion hefyd a chredaf fod yn rhaid i ni i gyd edrych ar draws y pleidiau i ddod o hyd i ffordd o symud ymlaen sy'n dderbyniol i bawb ohonom yma ac i'r cyhoedd yn gyffredinol hefyd.