Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 9 Ionawr 2019.
Diolch am ildio, Dai. Cytunaf â llawer o'r hyn rydych newydd ei ddweud. A ydych yn cytuno â mi ei bod yn eironig, yn ystod yr ymchwiliad, fod yr Athro Holtham wedi nodi pan edrychodd ar y farn gyhoeddus yng Nghymru, ei bod hi'n ymddangos bod diffyg dealltwriaeth, i raddau helaeth, ynglŷn â maint y broblem sy'n ein hwynebu? Mae hynny'n dangos sut y mae angen gwirioneddol inni fynd i'r afael â hyn a chael pobl i ddeall sut y mae'n rhaid i bawb ohonom wynebu hyn gyda'n gilydd.