5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 9 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:53, 9 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Gan nad wyf yn aelod o'r pwyllgor, nid oeddwn yn rhan o'r trafodaethau a arweiniodd at yr adroddiad hwn, ond hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiad gofalus a thrylwyr ar gost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio. Mae datblygiadau mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn galluogi pawb ohonom i fyw bywydau hirach ac iachach. Ynghyd â chynnydd yn y boblogaeth, nid yw'n syndod fod mater talu amdano'n codi ei ben a dyna pam y mae adroddiad y pwyllgor, ynghyd â'r adroddiad annibynnol gan yr Athro Gerald Holtham, a drafodwyd gennym ddoe, yn gwbl amserol.

Os edrychwn ar y gwariant cyfredol, gwelwn ei fod wedi gostwng 14 y cant mewn gwirionedd rhwng 2009-2010 a 2016-17 wrth i wasanaethau ganolbwyntio ar gefnogi pobl â lefelau uwch o angen. Mae hyn yn golygu bod yna fwy o bobl ag anghenion gofal llai acíwt o bosibl sy'n cael gofal yn eu cartrefi eu hunain. Wrth gwrs, mae'n bosibl mai priod neu bartner sy'n darparu'r gofal hwnnw. Felly, pan fyddwn yn edrych ar ariannu gofal cymdeithasol, rhaid inni roi ystyriaeth ofalus iawn i'r gofalwyr eu hunain, yn enwedig aelodau o'r teulu sy'n darparu gofal ar gyfer eu hanwyliaid. Yn wir, ceir oddeutu 370,000 o ofalwyr anffurfiol yng Nghymru. Rydym yn clywed llawer o straeon am y gofalwyr hyn yn methu eu hapwyntiadau meddygol eu hunain neu weithgareddau cymdeithasol oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu. Mae gofalwyr ifanc yn arbennig angen ein cymorth, a gwn y byddai Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn dymuno talu teyrnged i'r gwaith y mae pob gofalwr yn ei wneud yn ddyddiol. Rwy'n falch, felly, fod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor y dylai gynnal adolygiad i weld a yw'r asesiad y mae gan ofalwyr hawl iddo o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael ei gyflawni, ac a yw'r anghenion hynny'n cael eu hasesu'n gywir.

Gan droi at y galwadau ar y system gofal cymdeithasol, mae'r gymhareb rhwng nifer y bobl dros 70 oed a rhai 20 i 69 oed yn mynd i gynyddu erbyn y 2040au cynnar o 23 y cant i 37 y cant. Felly, dyna gynnydd o 50 y cant o fewn y boblogaeth—ac efallai y dylwn gyffesu rhywfaint o euogrwydd ynglŷn â'r ystadegyn hwnnw fy hun. Rhagwelir y bydd y galw am wariant ar ofal cymdeithasol yn codi dros 85 y cant erbyn 2035, ar brisiau 2016-17, felly dyna gynnydd o 20 y cant yn y gwariant y pen a chynnydd o dros 55 y cant yn y niferoedd sydd angen gofal. Mae'r ffigurau hyn yn amlygu'n glir yr angen i wynebu realiti hirdymor ariannu gofal cymdeithasol. Ers gormod o amser, nid ydym wedi mynd i'r afael â hyn yn ddigonol. Fel y nododd y pwyllgor, dengys y dystiolaeth fod pwysau ariannu ynghyd â chynnydd yn y boblogaeth yn arwain at ddiffyg ariannol. Cymhlethir hyn ymhellach gan y trefniadau cymhleth sy'n gysylltiedig â thalu am ofal, sy'n aml yn arwain at annhegwch.

Wrth gwrs, bu llawer o ddadlau ynghylch y posibilrwydd o ardoll gofal cymdeithasol, ac mae'r pwyllgor hwn wedi ystyried hyn yn ofalus iawn. Rwy'n falch o weld mai un o'r argymhellion yw y byddai angen i Lywodraeth Cymru allu cyfiawnhau sut y defnyddir unrhyw arian a godir a gallu dangos y bydd yn gwneud gwahaniaeth. Dylai hyn gynnwys esbonio pa lefel o ofal y gallai'r cyhoedd ei disgwyl yn gyfnewid am eu cyfraniadau, gan ei bod yn annhebygol y byddent yn cefnogi argymhellion i dalu mwy os yw lefel y gofal yr un fath â'r hyn ydyw ar hyn o bryd. Cyn inni ystyried unrhyw drethi newydd, gan mai dyna fyddai'r ardoll newydd mewn gwirionedd, mae angen i'r cyhoedd fod yn sicr eu bod yn cael rhywbeth sy'n quid pro quo, ac yn sicr, ni fyddem ni ar y meinciau hyn yn gallu cefnogi ardoll newydd oni bai a hyd nes y gellir ei chyfiawnhau'n llawn i'r trethdalwr.

Pwynt a wnaeth fy nghyd-Aelod, Neil Hamilton, yn ystod trafodaethau'r pwyllgor yw bod angen inni hefyd wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd yn sylweddol yn y sector iechyd. Rhaid inni sicrhau bod pobl yn gallu gweld eu meddyg teulu pan fo angen. Byddai hyn yn lleihau nifer yr achosion brys a derbyniadau i'r ysbyty. Bydd sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty'n gyflymach ac yn ôl i'w cartrefi, gydag addasiadau a phecynnau gofal addas, hefyd yn helpu i leihau'r baich hirdymor ar y sector gofal cymdeithasol.

Mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi prosiect ymateb i gwympiadau o'r blaen ar y cyd ag Ambiwlans Sant Ioan, i ymdrin â pheth o'r pwysau ar y GIG dros y gaeaf. Dylem edrych ar bob un o'r mathau hyn o brosiectau er mwyn gwerthuso eu budd i ofal cymdeithasol. A bod yn deg â hwy, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud peth gwaith rhagorol yn y maes hwn, ond rhaid inni wneud rhagor er mwyn goresgyn heriau'r dyfodol.

Yn olaf, mae angen inni ymdrin â thwf yn y boblogaeth, ac mae hynny'n golygu cael polisi mewnfudo sy'n addas ar gyfer ein buddiannau economaidd cenedlaethol. Felly rhaid inni gael mesurau rheoli ffiniau priodol fel y gallwn asesu'n iawn pa bobl sydd ag angen dybryd a phriodol am loches, ond gyda mesurau rheoli llymach ar gyfer y rhai sy'n dod yma am resymau economaidd, ac a fydd, yn anochel, yn rhoi mwy fyth o bwysau ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol sydd eisoes dan bwysau gormodol.