Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 15 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:41, 15 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod hwnna'n bwynt ardderchog, Prif Weinidog. Fodd bynnag, mae gennym ni dystiolaeth o 20 mlynedd o Gymru ddatganoledig lle mae perfformiad economaidd y rhanbarth wedi methu'n lân â gwella. [Torri ar draws.] Y rhanbarth, y wlad—beth bynnag yr hoffech chi ei galw. Beth bynnag yr hoffech chi ei galw. Mae perfformiad economaidd Cymru wedi methu'n lân â gwella dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae'r ffigurau gwerth ychwanegol gros diweddaraf yn dangos bod Cymru, unwaith eto, yr isaf o bedair gwlad y DU, trwy wneud hyd yn oed yn waeth nag yr oeddem ni cyn i ni gael eich Plaid Lafur chi yn rhedeg Cymru drwy'r Cynulliad. Felly, o ystyried hynny, a ydych chi'n dychmygu o dan eich arweiniad chi dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ein bod ni'n mynd i gael ymateb cyflym a bod y ffigurau hyn yn mynd i newid, ac ar ryw adeg ein bod ni'n mynd i gael ystadegau sy'n gwella o ran y perfformiad economaidd?