Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 15 Ionawr 2019.
Wel, mae gen i ofn, Llywydd, mai'r bygythiad mwyaf i economi Cymru yw'r polisi a hyrwyddwyd gymaint gan ei blaid ei hun. Os ydym ni am gael effaith gyflym ar economi Cymru, bydd yn digwydd pe byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn ei adael ar y telerau y mae ei blaid wedi ei hyrwyddo ers cyhyd. Mewn gwirionedd, mae economi Cymru yn gadarn, mae wedi gwrthsefyll anawsterau'r cyfnod o gyni cyllidol, mae'n mynd i'r ychydig flynyddoedd nesaf â lefelau cyflogaeth yn uwch nag ers llawer o flynyddoedd a fu, a chyda lefelau diweithdra sy'n is na llawer o flynyddoedd a fu. Byddwn yn gwneud popeth y gallwn, ond byddwn yn ei wneud yn nannedd y polisïau y mae ei blaid ef yn eu hargymell, yn hytrach na chael ein cynorthwyo ganddynt.