Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 15 Ionawr 2019.
Diolch yn fawr iawn am y materion hynny ac am gofnodi eich pryder ynghylch y cyhoeddiad sy'n ymwneud â Ford. Gwn fod Gweinidog yr economi yn ymwneud â'r mater hwn i raddau helaeth ac yn sicr bydd yn cyflwyno'r diweddariadau priodol i Aelodau'r Cynulliad pan fyddai'n ddefnyddiol.
O ran yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw ynghylch cynghorau tref a chymuned, gwn y bydd y Gweinidog, yn amlwg, yn ystyried yr adroddiad hwnnw. Caiff yr Aelodau gyfle i'w holi hi ar hynny yn ystod ei sesiwn gwestiynau yr wythnos nesaf.