Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 15 Ionawr 2019.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Wel, mae heddiw, wrth gwrs, yn ddiwrnod hanesyddol, achos mi fyddwn ni yn pleidleisio i benderfynu ar y cyfraddau Cymreig ar gyfer treth incwm yng Nghymru, a hynny am y tro cyntaf, wrth gwrs, mewn canrifoedd lawer. Nawr, mae'r pwerau dan sylw yn ymestyn ar y pwerau trethiannol a gafodd eu datganoli yn Ebrill y flwyddyn diwethaf, ac mi ddylai'r pwerau hyn, fel rŷn ni wedi ei glywed, roi'r gallu i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau pwysig eithriadol a chael tipyn mwy o ddylanwad ar anghenion Cymru a'i phobl. Felly, mae gofyn i ni graffu ar y penderfyniadau yma yn effeithiol. Mi fydd y cyfraddau Cymreig, fel dywedodd y Gweinidog, yn codi tua £2 biliwn, felly dyw craffu effeithiol erioed wedi bod yn bwysicach o safbwynt y sefydliad yma.
Felly, wrth i ni graffu ar y gyllideb ddrafft fel pwyllgor, fe wnaethon ni glywed am y problemau o ran rhagolygon yr Alban ar gyfer ei chyfradd treth incwm. Er ein bod ni yn cydnabod y mesurau diogelu sy'n cael eu rhoi i Gymru yn ei blwyddyn gyntaf o godi cyfraddau Cymreig mewn treth incwm, mae'r pwyllgor yn credu bod rhaid inni ddysgu o'r hyn a ddigwyddodd yn yr Alban. Fe gawson ni sicrwydd gan y cyn-Ysgrifennydd Cabinet ei fod e'n gweithio i ddysgu o'r profiadau rheini. Ond, fel pwyllgor, wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth y byddwn ni yn ei fonitro yn y dyfodol hefyd.
Mae'r gyllideb derfynol yn dangos gostyngiad o £40 miliwn yn rhagolygon y dreth incwm o ganlyniad i newidiadau i'r lwfans personol yng nghyllideb y Deyrnas Unedig. Mae’r mesurau diogelu a roddir i’r grant bloc eleni yn golygu, wrth gwrs, nad yw Llywodraeth Cymru yn wynebu’r gostyngiad hwn, ond mae’n rhaid inni fod yn ymwybodol o newidiadau o’r fath mewn blynyddoedd i ddod. Nawr, un o’r gwahaniaethau rhwng Cymru a’r Alban o ran y dreth incwm, wrth gwrs, yw natur ddeinamig y symud sy’n digwydd dros ffin Cymru a Lloegr, gyda thua 100,000 o bobl yn mudo un ffordd neu’r llall bob blwyddyn. Nawr, mi glywon ni gyfeiriadau at rai sylwadau a oedd gan Steffan Lewis i’w gwneud ar y mater yma yn y teyrngedau blaenorol, ac mae’n berffaith iawn, wrth gwrs, ond mae’r pwyllgor yn credu ei bod hi yn hanfodol ein bod ni’n monitro’n effeithiol faint o bobl Cymru sy’n talu’r dreth incwm yn ystod y flwyddyn. Mae'r pwyllgor yn cydnabod y contractiwyd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i sicrhau bod trethdalwyr yn cael eu hadnabod yn gywir, ond rŷn ni yn annog Llywodraeth Cymru i oruchwylio'n barhaus ac yn gadarn i sicrhau bod y system fflagio yn addas at ei diben nawr ac, wrth gwrs, dros y tymor hir, oherwydd nid rhywbeth dros dro yw hwn; bydd hon yn broses barhaol. Yn ôl y ffordd y bydd y system yn gweithredu, wrth gwrs, bydd unrhyw un nad yw'n cael ei adnabod i fod yn drethdalwr yng Nghymru neu'n drethdalwr yn yr Alban yn cael ei adnabod yn ddiofyn fel trethdalwr o Loegr neu Ogledd Iwerddon. Canlyniad hynny, wrth gwrs, fydd y bydd treth incwm y bobl hynny yn cael ei ddyrannu i San Steffan.
Dwi'n croesawu'r penderfyniad ynghylch y gyfradd yng Nghymru sydd ger ein bron heddiw, ac, fel Pwyllgor Cyllid, rŷn ni’n falch bod y cynnig hwn yn cael ei gysylltu â chynnig y gyllideb flynyddol, er mwyn, wrth gwrs, sicrhau atebolrwydd llawn wrth godi refeniw, ond gwneud hynny ochr yn ochr â gwneud cynlluniau gwario.