5. Dadl: Pennu Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2019-20

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 15 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:21, 15 Ionawr 2019

Mi ddechreuaf i sylwadau byr drwy gyfeirio at gomisiwn Holtham a chomisiwn Silk, ac un o’r egwyddorion pwysicaf sy’n cael eu hamlinellu ganddyn nhw, neu a oedd yn cael eu hamlinellu, oedd gwerth a phwysigrwydd cymryd cyfrifoldeb ariannol a phwysigrwydd atebolrwydd. Does yna ddim amheuaeth heddiw ein bod ni gam arall yn nes at yr atebolrwydd a’r cyfrifoldeb hwnnw drwy allu gosod ein cyfraddau treth incwm ein hunain. Dŷn ni ar y meinciau yma, ar y seddi yma, yn edrych ymlaen at weld sut y bydd y Llywodraeth bresennol yn defnyddio’r pwerau yma mewn blynyddoedd i ddod. Mi ydyn ni yn sicr yn edrych ymlaen at gyflwyno ein syniadau ein hunain a chyfrannu at y ddadl honno, a gweithredu mewn llywodraeth mewn blynyddoedd i ddod.

Mae hyn, fel sydd wedi cael ei grybwyll yn barod, yn foment hanesyddol i’n Senedd ni. Mi fydd pobl Cymru rŵan yn gallu gweld mewn termau real ar eu slip cyflog nhw bwysigrwydd y Senedd a Llywodraeth Cymru, a sut mae ein sefydliadau ni yn effeithio’n uniongyrchol ar fywydau pob dydd. Dŷn ni fel Senedd yn cryfhau a, thrwy hynny, rydyn ni fel cenedl yn cryfhau ac yn aeddfedu.

O ran y cyfraddau sy’n cael eu cynnig ger ein bron ni heddiw, dŷn ni’n tueddu i gefnogi’r cyfraddau sy’n cael eu nodi yn y cynnig yma gan mai nhw ydy’r rhai cyntaf i’r Llywodraeth eu gosod. Gosod sylfaen ydyn ni at y dyfodol, a dwi’n siŵr y gwelwn ni lawer o newidiadau yn y dyfodol wrth inni aeddfedu mwy a thyfu mewn hyder ynglŷn â sut i ddefnyddio’r pwerau trethiant er budd pobl Cymru. Achos, efo’r pwerau newydd yma, mae cyfrifoldeb mawr arnon ni i gyd, fel Aelodau ein Senedd genedlaethol ni, fel aelodau o’n pleidiau gwleidyddol ein hunain, nid yn unig i barchu’r cyfrifoldebau yma ond i ymateb i’r ffaith ein bod ni’n cael y cyfrifoldebau yma a’u defnyddio nhw mewn ffordd gyfrifol, ond hefyd i’w defnyddio nhw mewn ffordd a fydd yn greadigol, mewn ffordd a fydd yn datblygu dull Cymreig o osod trethi—ffordd Gymreig a fydd nid yn unig yn ymateb i broblemau sylfaenol yng nghymdeithas Cymru, ond hefyd, dwi’n gobeithio, yn ein galluogi i fod yn flaengar yn ein syniadau ac yn uchelgeisiol wrth inni greu system dreth a fydd yn decach i bobl Cymru na’r un sydd gennym ni ar hyn o bryd.