Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 15 Ionawr 2019.
Ie, cyllideb derfynol, a tipyn o newidiadau ers y gyllideb ddrafft. Yn anffodus, dim digon o newidiadau o'r gyllideb ddrafft, yn enwedig pan mae'n dod at gyllid i lywodraeth leol. Wrth i fi groesawu'r Gweinidog cyllid newydd i'w swydd, mi allwn i bwyntio allan ei bod hi'n bosib gwneud pethau'n wahanol pan mae yna newid personél mewn swydd, ond o bosib mae hi'n anodd pan mai eich rhagflaenydd chi ydy'r bòs erbyn hyn. Ond, yn sicr, mae yna wendidau, dwi'n meddwl, fydd yn costio'n ddrud, yn enwedig, fel rwy'n dweud, ym maes llywodraeth leol.
Dwi'n gwerthfawrogi sylwadau y Gweinidog cyllid yn croesawu'r trafod rydym ni wedi ei gael ynglŷn â'r gyllideb yma cyn heddiw, ond fe wnaf i unwaith eto dalu teyrnged i Steffan yn y fan hyn, oherwydd fy rhagflaenydd i fel llefarydd cyllid oedd yn gyfrifol am osod y seiliau ar gyfer y cytundeb fu a sydd wedi bod rhyngom ni fel Plaid, a chytundeb sydd yn gweld ôl ei llwyddiant hi drwy'r hyn sydd wedi cael ei gyflwyno i ni heddiw.
Rydym ni wedi gweithio efo'r Llywodraeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar gyllidebau, ac rwy'n sicr yn siarad ar ran pob un ohonom ni ar yr ochr yma i'r Siambr drwy ddweud ein bod ni'n hynod o falch o'r hyn rydym ni wedi ei gyflawni drwy ein cytundeb cyllideb ni—a gafodd ei chytuno rhwng Steffan a'r Prif Weinidog presennol, y Gweinidog Cyllid blaenorol—sef £0.5 biliwn o ymrwymiadau sydd wedi'n galluogi ni i weithredu'n maniffesto o feinciau gwrthblaid.
Mae'n cynnwys nifer o bethau rydym ni'n falch iawn iawn ohonyn nhw: £40 miliwn ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, cyllid pellach ar gyfer datblygu hyfforddiant meddygol sydd wedi arwain at sefydlu addysg feddygol ar gyfer y gogledd, cefnogaeth i fusnesau yn ystod Brexit ac ar ôl hynny, yr amgueddfa bel-droed a'r amgueddfa celf fodern yn cael eu datblygu ymhellach, arian ar gyfer Glan-llyn a Llangrannog—pethau fydd yn cael effaith go iawn ar fywydau pobl a phlant yng Nghymru. Os gallwn ni gyflawni hyn fel gwrthblaid, dychmygwch beth allwn ni gyflawni mewn Llywodraeth.
Ymatal fyddwn ni ar y gyllideb heddiw i adlewyrchu'r cytundeb sydd gennym ni, ond mae'r cyd-destun, wrth gwrs, wedi newid yn sylfaenol ers y cytundeb. Y newid mawr wrth gwrs ydy bod gan y Llywodraeth yma fwyafrif gweithredol erbyn hyn, felly cyllideb y Llywodraeth ydy hon, heb y gallu i gael ei threchu gan wrthbleidiau, ac mi rydym ni'n sicr yn gresynu yn fawr at sawl elfen ohoni. Mae'r Llywodraeth yn dal yn methu â sylweddoli dyfnder trafferthion ariannol llywodraeth leol. Oes, mae yna rywfaint o arian yn rhagor wedi dod, £50 miliwn ers y gyllideb gyntaf, ond dydy hyn ddim yn agos at yr hyn yr oedd ei angen. Mae'r grant craidd yng Nghymru i awdurdodau lleol wedi gostwng 22 y cant ers 2010, ac er, yn ôl y penawdau, nad oes yr un llywodraeth leol yn gweld gostyngiad o fawr ddim, yn fwy na ryw 0.53 y cant yn ei chyllidebau, celwydd golau ydy hyn. Mi fydd yr effaith wirioneddol ar wasanaethau yn ddwfn iawn.
Ac ydyn, rydyn ni'n cytuno efo chi fod angen pwyntio'r bys at Lywodraeth Geidwadol greulon yn San Steffan, a'r hyn sydd wedi cael ei wneud trwy bolisi annheg ac anghyfiawn llymder, ond dewis gwleidyddol Llywodraeth Lafur Cymru oedd peidio â gwneud y buddsoddiad yr oedd gennych chi'r gallu i'w wneud mewn llywodraeth leol yn y gyllideb y tro hwn. Allwch chi ddim osgoi rhag y ffaith eich bod chi wedi penderfynu gwneud penderfyniad gwleidyddol amgen a oedd yn methu â rhoi'r gefnogaeth yna i'n cynghorau ni.
Mae iechyd wedi gweld cynnydd o £0.5 biliwn ers y gyllideb atodol gyntaf, ond, wrth gwrs, all y gwasanaeth iechyd ddim gweithio mewn vacuum. Mae angen llywodraeth leol wedi'i chyllido yn dda, sydd yn gallu rhoi'r gefnogaeth iawn a phriodol i wasanaethau cymdeithasol er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn gallu gweithredu yn gynaliadwy. Ac nid dyna'r sefyllfa sydd gennym ni.
Rydyn ni wedi codi'r materion yma dro ar ôl tro. Mae'r Llywodraeth yma yn gwybod bod pobl o fewn eu plaid eu hunain yn teimlo'r un fath â ni. Mae Anthony Hunt, llefarydd cyllid ar ran y WLGA, arweinydd cyngor Torfaen, hefyd yn mynegi ei bryder fod y Llywodraeth wedi gwneud y penderfyniadau anghywir efo'r gyllideb hon. Ac yn ddiweddarach heddiw mi bleidleisiwn ni yn erbyn y setliad llywodraeth leol, achos dydyn ni ddim yn credu bod y penderfyniadau cywir, y penderfyniadau a oedd â photensial i drawsnewid llywodraeth leol, neu dynnu'r pwysau oddi arnyn nhw o leiaf, wedi cael eu gwneud y tro hwn. Ond ymatal y byddwn ni ar y gyllideb, ond hwn fydd y tro olaf.