Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 15 Ionawr 2019.
Wrth i gyni barhau, nid yw'r swm o arian sydd ei angen i redeg gwasanaethau cyhoeddus ar y lefel y mae'r cyhoedd yn ei ddymuno a'i angen yn cael ei ddarparu. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi nad yw cyni'n bolisi economaidd ond yn gyfeiriad teithio gwleidyddol. Mae'r Ceidwadwyr yn San Steffan eisiau lleihau gwariant cyhoeddus a lleihau'r ddarpariaeth o wasanaethau gan y wladwriaeth.
Wrth i ni fynd heibio'r ddegfed flwyddyn o dwf economaidd araf ar y gorau, mae angen newid cyfeiriad arnom ac y mae arnom ni angen twf economaidd. Mae'r swm o arian sydd ar gael i redeg y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn annigonol. Yn anffodus, mae'n rhaid inni gael cyllideb yn seiliedig ar yr hyn sydd ar gael yn hytrach na'r hyn y mae pobl Cymru ei angen.
Byddaf yn cefnogi'r gyllideb heddiw, ond fe fyddwn yn methu yn fy nyletswydd i'm hetholwyr pe na bawn i'n codi'r pryderon difrifol sydd gennyf. Yn gyntaf, nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth fod y gyllideb wedi'i hysgogi gan naill ai'r rhaglen ar gyfer llywodraethu na ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol. Yr hyn a wnaeth y gyllideb hon, yn unol â'r rhai diweddar i gyd, yw cynyddu cyfran cyllideb Llywodraeth Cymru a gafodd ei wario ar iechyd a lleihau cyfran y gwario ar lywodraeth leol a gwasanaethau eraill, gyda rhywfaint o ddiogelu'r economi a thrafnidiaeth. Mewn cyfarfod diweddar o'r Pwyllgor Cyllid, nododd Michael Trickey pryd y byddai'r ganran o gyllideb Cymru a ddyrannwyd i iechyd yn cyrraedd 60 y cant pe byddai'r polisi presennol yn parhau.
Mae iechyd, yn fy marn i, yn gamenw. Caiff yr arian ei ddyrannu i iechyd, yna mae'n mynd i'r byrddau iechyd, yna mae'n mynd i wasanaethau ysbyty yn bennaf. Mae'r gyfran o'r gyllideb iechyd sy'n cael ei wario ar ofal sylfaenol yn gostwng. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn nodi'n rheolaidd y gostyngiad cymharol a geir mewn gwariant gofal sylfaenol. Mae hyn yn effeithio ar arferion gofal sylfaenol. Rhwng Hydref 2015 a mis Hydref 2018, caeodd 21 o bractisau meddygon teulu, cyflwynodd 37 ohonyn nhw gais cynaliadwyedd i'r bwrdd iechyd, ac roedd 45 o bractisau mewn perygl. Mae gormod o bobl bellach yn defnyddio adrannau damweiniau ac achosion brys fel eu gwasanaeth gofal sylfaenol, sy'n achosi problemau enfawr mewn unedau damweiniau ac achosion brys. Bu trafodaethau ar iechyd darbodus: deiet, gordewdra, ymarfer corff, peidio ag ysmygu, yfed llai o alcohol—mae pob un yn lleihau afiechyd, ac rwy'n credu y dylem ni sôn llawer mwy am leihau afiechyd yn hytrach na sôn am geisio trin pobl yn ddiweddarach. Gadewch inni gael llai o bobl sâl.
Tua 2015 fe luniodd yr archwilydd cyffredinol adroddiad ar ymyriadau meddygol sy'n gwneud dim lles i'r claf, ac amcangyfrifwyd ar y pryd eu bod yn costio sawl can miliwn o bunnoedd. Nid oedd hyn yn cynnwys gwariant pryd y bu'r llawdriniaeth yn llwyddiannus, ond ar ôl bod yn yr ysbyty nid oedd yr unigolyn yn gallu edrych ar ôl ei hun mwyach ac yn y pen draw bu'n rhaid iddo fynd i gartref nyrsio. Yn rhy aml mae pobl oedrannus sydd fwy neu lai dim ond yn gallu ymdopi gartref gyda chymorth gofal cymunedol, yn y pen draw yn mynd i gartref gofal ar ôl llawdriniaeth lwyddiannus. Ac roedd gen i un etholwr na fu'n rhaid iddo fynd i gartref, diolch byth, oherwydd ei fod yn yr ysbyty am wythnos yn unig—fe ddaeth yn ôl ar ôl colli 10 pwys, ac roedd yn ei chael hi'n anodd iawn symud o amgylch, ond fe wellodd. Pe byddai wedi bod yn yr ysbyty am saith diwrnod arall, rwyf bron yn sicr y byddai wedi gorfod mynd i gartref nyrsio. A dyma le ceir un o'r problemau rwy'n credu: rydym ni'n trin rhannau o'r person, nid y person cyfan. Rwy'n siŵr petaech chi'n gofyn i lawer o bobl oedrannus ddewis rhwng parhau mewn poen oherwydd eu pen-glin neu fynd i gartref nyrsio, y bydden nhw'n dewis parhau i fyw gydag ychydig o boen yn eu pen-glin.
Nododd y diweddar Dr Julian Tudor Hart, gydag eraill, wariant ar bethau fel lleihau pwysedd gwaed a oedd dim ond wedi codi ychydig, rhywbeth nad oedd yn gwneud dim lles amlwg i'r claf, ac eto rydym ni'n dal i dalu symiau sylweddol am y feddyginiaeth. Fe nododd y Prif Weinidog, pan oedd yn Ysgrifennydd iechyd, gyfraddau ymyrryd gwahanol ar gyfer tynnu tonsiliau a gafwyd mewn dwy ardal yn yr un bwrdd iechyd—roedd yn ddwywaith mwy tebygol i donsiliau gael eu tynnu yn un nag yr oedd yn y llall.
Cyflwynodd Sefydliad Nuffield ymchwil yn dangos y bu gostyngiad o dros 25 y cant yng nghyfanswm y nifer o dderbyniadau cleifion mewnol fesul meddyg gwasanaethau iechyd ysbytai cymunedol rhwng 1999 a 2000 a rhwng 2011 a 2012. Nawr, nid wyf yn dweud nad yw iechyd yn bwysig, ond y mae byrddau iechyd yn tueddu i weithredu mewn gwactod, ac mae llawer iawn o bethau eraill yn digwydd y mae angen ymdrin â nhw. Nid oes amser imi ymhelaethu ar y datganiad hwn, ond rwy'n credu bod strwythur presennol y byrddau iechyd a'r ymddiriedolaeth ambiwlans yn llai na'r optimwm.
Ynghylch gweddill y gyllideb, mae llywodraeth leol yn parhau i fod o dan bwysau, er ei bod yn darparu gwasanaethau a all wella ffordd o fyw ac felly, iechyd. Mae pwysigrwydd gofal cymunedol er mwyn galluogi pobl i adael yr ysbyty a hefyd i'w cadw allan o'r ysbyty—. Rwy'n credu ein bod ni'n tanbrisio'r gwaith a wneir gan nifer â chyflogau cymharol isel, menywod yn bennaf, yn y gwasanaeth gofal cymdeithasol, sy'n cadw pobl yn eu cartrefi ac yn cynnig ffordd o fyw dda iddyn nhw. Rwy'n credu ein bod ni'n tanbrisio pa mor ddefnyddiol ydyn nhw, ac yn anffodus, oherwydd pwysau cyllideb, mae gormod o'r rheini wedi symud allan o gyflogaeth uniongyrchol yr awdurdodau lleol ac wedi symud i'r sector preifat.
Hefyd, mae llywodraeth leol yn darparu'r gwasanaethau a ddefnyddiwn yn barhaus: y ffyrdd, y palmentydd, casglu sbwriel, glanhau strydoedd, parciau, llyfrgelloedd, yn ogystal ag addysg. Dyna'r ffordd mewn gwirionedd i lawer o bobl wella eu ffyrdd o fyw a'u cyfleoedd bywyd nhw a'u teuluoedd. Rwy'n credu bod angen inni sôn mwy am ddarparu adnoddau ychwanegol i addysg, fel bod pob plentyn yn cael y cyfle i wneud y gorau y gall.