Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 15 Ionawr 2019.
Mi gychwynnaf eto drwy ddweud nad oes dim amheuaeth bod y setliad sydd o'n blaenau ni heddiw yn gyfle sydd wedi cael ei fethu i godi tipyn o bwysau oddi ar lywodraeth leol, a fyddai, yn ei dro, wedi cael sgil-effaith bositif ar wasanaethau cyhoeddus yn ehangach yn dilyn blynyddoedd o lymder parhaus. Mae'n gliriach nag erioed, rwy'n credu, fel rydym ni wedi clywed gan sawl siaradwr, na all ein cynghorau ni barhau i weithredu'n effeithiol yn y sefyllfa ariannol bresennol sydd ohoni. Mae diffyg cyllid digonol yn sicr o effeithio'n uniongyrchol o hyn ymlaen ar feysydd sydd i raddau helaeth wedi cael eu gwarchod tan rŵan—addysg a gwasanaethau cymdeithasol yw'r ddau brif rai sy'n dod i'r meddwl.
Mae methiant i wario'n ddigonol ar wasanaethau cymdeithasol yn effeithio ar gyllidebau iechyd hefyd, wrth gwrs. Drwy dorri cyllid gwasanaethau ataliol hanfodol, mae'n ychwanegu pwysau ar y gwasanaeth iechyd. Wrth gwrs, ar yr wyneb, prin fyddai unrhyw un yn anghytuno efo'r hyn sydd wedi digwydd i roi rhagor o arian i'r gwasanaeth iechyd, ond dydy gwneud hynny heb ystyried y cyd-ddibyniaeth sydd yna rhwng iechyd a llywodraeth leol yn helpu neb. Mae o'n fyr dymor wrth ei hanfod.
Fe fyddwn i'n dymuno gweld y ffordd y mae cyllidebau yn cael eu cynllunio ar draws wahanol feysydd, sut maen nhw'n dod at ei gilydd efo pwrpas strategol, yn newid. Mae angen llywodraeth efo gweledigaeth glir iawn i wneud hynny, efo ffocws ar yr hirdymor a pharodrwydd i dynnu haenau o lywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd. Nid ôl hynny rydym ni'n ei weld ar hyn o bryd, rwy'n ofni.
Mae'n siomedig iawn gen i orfod adrodd nad ydw i hyd yma wedi derbyn ymateb i lythyr ysgrifennais i ar y cyd at y Gweinidog cyllid a'r Gweinidog Addysg cyn gosod y gyllideb derfynol yn gofyn ar yr unfed awr ar ddeg ar i'r Llywodraeth edrych eto am ffordd i leihau'r baich ar ein cynghorau ni. Dros y misoedd diwethaf, yn addysg yn benodol, dwi wedi derbyn gohebiaeth gan swyddogion o'r cyngor, penaethiaid a llywodraethwyr ysgolion—dwi'n datgan budd fel llywodraethwr fy hun, yn Ysgol Gyfun Llangefni—ac mae rhieni wedi bod yn cysylltu â fi a phobl yn y sector anghenion addysg arbennig, yn bryderus am effaith y gyllideb ar ddarpariaeth i'r sector addysg.
Mae argymhelliad y Llywodraeth, i bob pwrpas, ynglŷn â lle dylai lefel treth cyngor fod yn Ynys Môn ar gyfer y flwyddyn nesaf yn awgrymu y dylai'r dreth cyngor godi 10 y cant, mwy neu lai. Dyna argymhelliad y Llywodraeth, ond nid codi 10 y cant er mwyn buddsoddi, er mwyn cynyddu ar gyllidebau; codi 10 y cant a gweld toriadau dyfnion i gyllidebau addysg. Dwi'n gwybod bod swyddogion yn gweithio'n galed iawn i leihau'r toriadau y maen nhw'n mynd i orfod eu gwneud i addysg. Mae sôn wedi bod am dros £1.5 miliwn. Dwi'n gobeithio y bydd hynny'n gallu bod yn is. Ond does gan ysgolion ddim lle i wneud toriadau pellach. Mae un pennaeth yn dweud wrthyf fi, 'Dwi ddim yn mynd i boeni ymhellach, oherwydd os af i boeni am yr gagendor ariannol dwi'n ei wynebu, fe wnaf i wneud fy hun yn sâl. Felly, beth dwi'n mynd i orfod ei wneud ydy jest trio delio â'r sefyllfa a derbyn bod yna orwario yn digwydd'.
Wnaethon ni ddim cyrraedd y cwestiwn yma gennyf yn y sesiwn cwestiynau diwethaf i'r Gweinidog: 'A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyllidebau ysgolion yn sgil setliad llywodraeth leol 2019-20?' Yr ateb ysgrifenedig a gefais yw:
'Ar draws y Llywodraeth, rydym yn rhoi blaenoriaeth i gynorthwyo ysgolion drwy'r setliad ar gyfer llywodraeth leol. Rydym ni'n parhau i roi cyllid grant ychwanegol sylweddol uwchlaw'r cyllid craidd i ysgolion drwy awdurdodau lleol. Yn ystod tymor presennol y Cynulliad, rydym ni wedi ymrwymo i fuddsoddi £100 miliwn i godi safonau ysgolion'.
Mae'r ymateb yna wedi corddi llywodraeth leol a rhai mewn addysg yn fy etholaeth i. Ymateb di-hid; cyllid craidd ydy'r broblem. Heb gyllid craidd digonol, mae awdudrod fel Ynys Môn yn cael ei gwthio i gau ysgolion ar yr un pryd ag y mae'r Llywodraeth yn dod â chod newydd er mwyn trio twyllo pobl i feddwl eu bod nhw'n trio arbed ysgolion bach, a dim arian ychwanegol i weithredu'r cod, ac yn y blaen.
Hynny ydy, dydy'r sefyllfa dŷn ni ynddi hi ddim yn gynaliadwy. Mi allwn i sôn am wasanaethau cymdeithasol hefyd. Pan fydd swyddogion cyngor yn dweud wrthyf i eu bod nhw'n bryderus na allan nhw fforddio gweithredu gorchmynion llys er mwyn gwarchod plant bregus sydd dan fygythiad, mae hynny'n gwneud i fi feddwl bod yna rywbeth sylfaenol o'i le efo lefel y cyllid sy'n mynd i mewn i lywodraeth leol. Bydd yn rhaid iddyn nhw wneud iddo fo weithio, ond dyna'r lefel dŷn ni'n sôn amdano: costau sylweddol i amddiffyn y mwyaf bregus yn ein cymdeithas ni, a dŷn ni wedi cyrraedd at y pwynt rŵan lle dydy'n llywodraeth leol ni ddim yn gallu fforddio gwneud y pethau yna.
Oes, mae yna ddegawd annheg ac anghyfiawn o lymder wedi dod o du'r Llywodraeth Geidwadol yn Llundain, ond mae yna benderfyniadau gwleidyddol wedi cael eu gwneud gan y Llywodraeth Llafur yma yng Nghymru sy'n golygu bod y bregus yn dioddef, ac mae llywodraeth leol yn enghraifft berffaith o hynny.