Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 16 Ionawr 2019.
Rydym wedi gweld cynnydd, wrth gwrs, yn nifer y manwerthwyr sydd wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr. Rwy'n credu ei fod 6 y cant yn uwch ers 2017, ac wrth gwrs, rydym yn clywed ei bod wedi bod yn Nadolig eithaf anodd i fusnesau ar y stryd fawr. Nawr, mae angen trawsnewidiad mawr mewn manwerthu ac yn y modd y mae'r stryd fawr yn gweithredu ac yn cyflwyno’i hun, rhywbeth sy’n llawer mwy heriol, buaswn yn dychmygu, mewn trefi gwledig na llawer o leoedd eraill. Ni fydd pobl yn rhoi'r gorau i brynu; mae'n debyg mai'r ffordd y maent yn gwario eu harian sy’n newid. Ond sut y mae'r Llywodraeth yn helpu'r manwerthwyr hynny, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, i ymateb i'r newidiadau a'r heriau hynny, a beth rydych chi'n ei wneud i'w cefnogi drwy’r trawsnewidiad hwnnw, fel y gallwn gadw nifer yr ymwelwyr, fan lleiaf, neu hyd yn oed gynyddu'r nifer honno, ac y gallwn ddarparu'r profiad siopa gwell y mae rhai pobl yn chwilio amdano?