Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 16 Ionawr 2019.
Diolch. Fel rhan o'r cynllun gweithredu economaidd newydd, rydym yn rhoi pwyslais arbennig ar ymagwedd ranbarthol tuag at ddatblygu economi Cymru. Rydym wedi sefydlu prif swyddogion rhanbarthol ac unedau rhanbarthol i sicrhau ein bod yn cydlynu ein gwaith gyda phartneriaid lleol. Ac rydym yn gweithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd er mwyn llywio ein hymagwedd tuag at fuddsoddi rhanbarthol ar ôl Brexit.