Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 16 Ionawr 2019.
Iawn. Diolch. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, ar ddechrau 2019, y bydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn arwain prosiect newydd i gefnogi datblygiad polisi datblygu economaidd rhanbarthol ar gyfer Cymru. Bydd y prosiect newydd hwn yn golygu y bydd arbenigwyr rhyngwladol yn ymweld â Chymru ac yn trafod heriau a chyfleoedd economaidd rhanbarthol gyda phartneriaid. Sut y gallwn liniaru effeithiau colli buddsoddiad rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd, ac a gaf fi wahodd yr arbenigwyr a'r gweithwyr proffesiynol hyn i ymweld ag Islwyn i gyfarfod â gwleidyddion a swyddogion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru hwyluso lles economaidd cymunedau fel fy un i yn Islwyn yn y dyfodol?