Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 16 Ionawr 2019.
[Anghlywadwy.] darparu, wrth gwrs—mae hynny'n bwysig, yn hytrach na dim ond cynllun. Yr hyn y mae busnesau ei angen, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, yw eglurder i allu gweithredu'n effeithiol, ac maent yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ddarparu'r eglurder hwnnw. Felly, Weinidog, rwyf am weld rhywbeth penodol a rhywbeth ymarferol yn digwydd ar lawr gwlad, a beth sy'n mynd i gael ei gyflawni dros y 12 mis nesaf? Mae busnesau am wybod ac rwy'n meddwl ein bod ni, fel Aelodau, eisiau gwybod hynny fel y gallwn eich dwyn i gyfrif a chraffu arnoch o safbwynt hynny. Ond a gaf fi ofyn i chi ystyried gosod amserlen—amserlen o un mis i'r llall—dros y flwyddyn nesaf fel y gallwn fesur cyflawniad yn erbyn eich cynllun economaidd?