Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 16 Ionawr 2019.
Diolch, Lywydd. Ac a gaf fi hefyd longyfarch y Gweinidog ar gael ei gadw yn ei swydd yn y Cabinet?
Safodd y Prif Weinidog yn y Siambr hon—mae'n ddrwg gennyf. Safodd y Prif Weinidog blaenorol yn y Siambr hon a datgan bod diweithdra yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU ar 3.8 y cant. Fodd bynnag, mae'r ffigur diweddaraf bellach yn 4.2 y cant, sy'n uwch na chyfartaledd y DU. A yw'r Gweinidog yn credu bod y Prif Weinidog wedi rhoi ei asesiad cadarnhaol o'r agwedd hon ar economi Cymru ychydig yn rhy gynnar?