Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 16 Ionawr 2019.
Iawn, a diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac rwy'n dymuno blwyddyn newydd dda iddo ac i'r holl Aelodau eraill.
Wrth gwrs, bellach mae timau rhanbarthol a phrif swyddogion rhanbarthol wedi'u sefydlu i fynd gyda'r cynllun gweithredu economaidd. Mae gennym fwrdd cyflawni trawslywodraethol, mae cynlluniau rhanbarthol yn cael eu rhoi at ei gilydd ar hyn o bryd, a gwahoddwyd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i graffu ar, ac i asesu llwyddiant y cynllun gweithredu economaidd. Rydym wedi rhoi'r contract economaidd ar waith a chronfa dyfodol yr economi hefyd, a gyda chronfa dyfodol yr economi, wrth gwrs, y galwadau i weithredu—y lens a ddefnyddiwn yn awr ar gyfer buddsoddi mewn busnesau.