Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 16 Ionawr 2019.
Weinidog, eisoes heddiw, wrth ateb cwestiynau, rydych chi a'r Dirprwy Weinidog wedi sôn am ddatblygiad rhanbarthol, rhai o’r trefniadau newydd ar gyfer hynny a’r ysgogiad newydd yr hoffech ei weld y tu ôl iddo.
Mae Casnewydd, Caerdydd a Bryste wedi bod yn siarad ac yn cydweithio ers cryn dipyn o ran datblygiadau ar draws yr ardal honno. Credaf fod diddymu'r tollau ar bontydd Hafren yn rhoi hwb newydd o ran y posibiliadau a'r potensial, ac ar yr un pryd gwyddom fod màs critigol ar draws yr ardal o ran pobl, busnesau, sefydliadau ar draws y sectorau. Felly, o ystyried y potensial hwnnw, o ystyried y manteision hynny a'r strwythurau newydd, yr ysgogiad newydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei geisio, rôl y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a allech ddweud wrthyf sut y bydd yr ardal honno o Gymru yn ymddangos yn y camau cynnar rydych yn disgwyl eu gweld?