Perthynas â Chwmnïau Mawr

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 16 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:10, 16 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Roedd gennyf ddiddordeb hefyd yn ei ateb yn gynharach, yn sôn am—y drafodaeth ynglŷn â'r hyn a olygwn wrth gwmnïau angori. Mae hwnnw'n ddatblygiad diddorol. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm ag Admiral Group, yr unig gwmni yng Nghymru ar restr FTSE 100. Maent yn cyflogi nifer sylweddol o etholwyr yng Nghaerffili a bron 8,000 o staff ar dri safle yng Nghymru. Buom yn trafod sut oedd gan y cwmni gysylltiadau strategol gyda Llywodraeth Cymru, ac o'r hyn a welais o'r drafodaeth, mae'r cysylltiadau strategol hynny i'w gweld yn weddol gyfyngedig. Un o'r pethau allweddol y gall Llywodraeth helpu i'w datblygu a'u tyfu yw sgiliau, yn enwedig anghenion sgiliau'r sefydliad hwnnw. Buont yn trafod rhai o'u gofynion sgiliau a'r ffaith bod ganddynt academi Admiral, sy'n edrych ar ddatblygiad proffesiynol a phersonol staff. Nid wyf yn teimlo bod digon o gyswllt strategol rhwng hynny a'n sector addysg yng Nghymru. O gofio ymagwedd draws-bortffolio'r Llywodraeth tuag at strategaeth, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i gael trafodaethau lefel uchel gydag Admiral i archwilio sut y gall y Llywodraeth ddatblygu'r cysylltiadau datblygu sgiliau strategol hynny?