1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 16 Ionawr 2019.
5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu perthynas â chwmnïau mawr sydd wedi'u lleoli yng Nghymru? OAQ53199
Diolch. Mae'r cynllun gweithredu economaidd yn nodi sut y byddwn yn adeiladu perthynas 'rhywbeth am rywbeth' gyda busnesau o bob maint, yn seiliedig ar fusnesau'n rhannu ein gwerthoedd drwy gyfrannu at achos cymdeithasol. Rydym yn mynd i wneud hyn drwy'r contract economaidd, drwy'r galwadau i weithredu, a thrwy gronfa dyfodol yr economi, ac wrth gwrs, yr achos cymdeithasol hwnnw yw hybu twf cynhwysol gyda gwaith teg i bawb.
Roedd gennyf ddiddordeb hefyd yn ei ateb yn gynharach, yn sôn am—y drafodaeth ynglŷn â'r hyn a olygwn wrth gwmnïau angori. Mae hwnnw'n ddatblygiad diddorol. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm ag Admiral Group, yr unig gwmni yng Nghymru ar restr FTSE 100. Maent yn cyflogi nifer sylweddol o etholwyr yng Nghaerffili a bron 8,000 o staff ar dri safle yng Nghymru. Buom yn trafod sut oedd gan y cwmni gysylltiadau strategol gyda Llywodraeth Cymru, ac o'r hyn a welais o'r drafodaeth, mae'r cysylltiadau strategol hynny i'w gweld yn weddol gyfyngedig. Un o'r pethau allweddol y gall Llywodraeth helpu i'w datblygu a'u tyfu yw sgiliau, yn enwedig anghenion sgiliau'r sefydliad hwnnw. Buont yn trafod rhai o'u gofynion sgiliau a'r ffaith bod ganddynt academi Admiral, sy'n edrych ar ddatblygiad proffesiynol a phersonol staff. Nid wyf yn teimlo bod digon o gyswllt strategol rhwng hynny a'n sector addysg yng Nghymru. O gofio ymagwedd draws-bortffolio'r Llywodraeth tuag at strategaeth, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i gael trafodaethau lefel uchel gydag Admiral i archwilio sut y gall y Llywodraeth ddatblygu'r cysylltiadau datblygu sgiliau strategol hynny?
A gaf fi ddiolch i Hefin David am ei gwestiwn a diolch iddo hefyd am y diddordeb brwd y mae wedi'i ddangos ers blynyddoedd lawer yn y system sgiliau a weithredwn? Cyfarfûm â sylfaenydd Admiral yr Hydref diwethaf. Buom yn trafod, ymhlith llawer o faterion eraill, argaeledd pobl gyda'r sgiliau cywir ar gyfer y cwmni, ac yn sicr, buaswn yn cyfarfod â rhanddeiliaid allweddol o fewn y gwasanaethau ariannol a phroffesiynol ehangach yng Nghaerdydd. Wrth gwrs, mae'r Aelod yn ymwybodol fod y bartneriaeth sgiliau ranbarthol ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd wedi dynodi mai'r sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol yw un o'i sectorau blaenoriaethol ar gyfer y rhanbarth wrth iddi geisio cynllunio—cynllunio'n well—y ddarpariaeth sgiliau ar gyfer economi'r rhanbarth a sicrhau bod cysylltiad agosach rhwng yr hyn y mae busnesau ei angen a beth y mae darparwyr sgiliau a darparwyr hyfforddiant yn ei gynhyrchu mewn gwirionedd. Caiff uwch-reolwr cysylltiadau sgiliau dynodedig ei bennu ar gyfer cyflogwyr mwy o faint Cymru megis Admiral, ac mae'n gweithio'n agos iawn gyda hwy ar eu hanghenion sgiliau, ac maent hefyd yn cynorthwyo busnesau drwy hwyluso ymgysylltiad cynhyrchiol â'r rhwydwaith darparwyr, gan gynnwys colegau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch. Ond o gofio bod y partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn dal ar gam cynnar o'u datblygiad, mae gwaith i'w wneud o hyd ar sicrhau bod y gwaith o gyfuno buddiannau busnesau a'r ddarpariaeth o unigolion medrus yn gwella.
Weinidog, mae fy rhanbarth yn dibynnu ar Tata, Ford a Sony, sydd oll yn gyflogwyr mawr ac yn rhan hanfodol o'r gadwyn gyflenwi. Ni all fy rhanbarth fforddio colli rhagor o swyddi. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r holl gyflogwyr mawr hyn wedi cwtogi eu gweithgarwch, gan arwain at golli llawer iawn o swyddi. Mae hon yn adeg arbennig o bryderus i weithwyr yn ffatri Ford Pen-y-bont ar Ogwr, ac fel gyda Tata a Sony, yr allwedd i sicrhau dyfodol y ffatri yw sicrhau busnes newydd ac amrywiol. Weinidog, pan fuom yn siarad y llynedd ynglŷn â dyfodol ffatri Pen-y-bont ar Ogwr, fe'ch anogais i weithio gyda Ford i ystyried newid i gynhyrchu system yriant llwyr drydanol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. A allwch amlinellu pa gynnydd, os o gwbl, a wnaethpwyd ar hyn, a pha un a yw Ford Europe yn agored i newid o'r fath hyd yn oed? Os felly, pa gymorth fydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r ffatri er mwyn sicrhau bod ailgyfarparu'n gallu digwydd?
Wel, rydym yn barod i gefnogi Ford mewn unrhyw ffordd y gallwn. Roedd y Prif Weinidog ar safle Pen-y-bont ar Ogwr y bore yma, yn cyfarfod â rheolwyr y safle a hefyd gyda chynrychiolwyr undebau llafur. Dywedais ddoe a dywedais yn gynharach heddiw mai'r hyn a allai fod yn hanfodol bwysig i safle Pen-y-bont yw datblygiad injans hybrid, gan gynnwys injan Dragon hybrid, ac mae Llywodraeth Cymru yn barod i gynorthwyo mewn unrhyw ffordd y gall i sicrhau bod ffatri Pen-y-bont ar Ogwr yn ffatri ddewisol ar gyfer hybrideiddio'r injan Dragon.
O fewn cylch blaenraglen waith Ford, nid oes unrhyw gynhyrchion injan newydd amlwg yn cael eu datblygu, a rhaid inni aros am ganlyniad trafodaethau â Volkswagen i benderfynu a fydd Ford yn defnyddio systemau gyriant trydan gan y gwneuthurwr Almaenig. Fodd bynnag, mae'n fwriad gennyf barhau i weithio'n agos gyda Ford a phartneriaid cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er mwyn sicrhau bod yr injan Dragon yn parhau i fod yn llwyddiant a bod unrhyw alw ychwanegol am yr injan Dragon yn arwain at gynyddu capasiti ac felly, at gynyddu cyfleoedd gwaith ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac er bod y gwaith yn mynd rhagddo, rydym yn chwilio am bob cyfle arall i greu cyflogaeth, naill ai drwy hybrideiddio'r injan Dragon, neu o bosibl drwy hynny yn ogystal â thrwy sicrhau buddsoddiad Ineos.