Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 16 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:53, 16 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Wrth gwrs, fel gyda phob ystadegyn, yn y manylion y ceir y gwirionedd. Er enghraifft, gwelwn fod yr ystadegyn ar ddiweithdra'n cynnwys pobl ar gontractau dim oriau anghyfiawn fel pobl a gyflogir. Ac un ffactor arall nad yw'n cael sylw yw'r cynnydd yn nifer y bobl yn ein hardaloedd ar y ffin, yn enwedig yn Nwyrain De Cymru a dwyrain gogledd Cymru sydd, er eu bod yn byw yng Nghymru, yn gweithio yn Lloegr mewn gwirionedd, ac nid yw'r gwrthwyneb o reidrwydd yn wir. Byddai hyn yn ymddangos eto, oni fyddech yn cytuno, fel pe bai'n gwaethygu ymhellach anghywirdeb y ffigurau diweithdra a nodwyd ac felly, gwir gyflwr economi Cymru wrth gwrs?