Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 16 Ionawr 2019.
Weinidog, mae fy rhanbarth yn dibynnu ar Tata, Ford a Sony, sydd oll yn gyflogwyr mawr ac yn rhan hanfodol o'r gadwyn gyflenwi. Ni all fy rhanbarth fforddio colli rhagor o swyddi. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r holl gyflogwyr mawr hyn wedi cwtogi eu gweithgarwch, gan arwain at golli llawer iawn o swyddi. Mae hon yn adeg arbennig o bryderus i weithwyr yn ffatri Ford Pen-y-bont ar Ogwr, ac fel gyda Tata a Sony, yr allwedd i sicrhau dyfodol y ffatri yw sicrhau busnes newydd ac amrywiol. Weinidog, pan fuom yn siarad y llynedd ynglŷn â dyfodol ffatri Pen-y-bont ar Ogwr, fe'ch anogais i weithio gyda Ford i ystyried newid i gynhyrchu system yriant llwyr drydanol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. A allwch amlinellu pa gynnydd, os o gwbl, a wnaethpwyd ar hyn, a pha un a yw Ford Europe yn agored i newid o'r fath hyd yn oed? Os felly, pa gymorth fydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r ffatri er mwyn sicrhau bod ailgyfarparu'n gallu digwydd?