Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 16 Ionawr 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu gwneud y cynnig yn enw ein plaid ac yn falch hefyd o nodi bod y Llywodraeth yn cefnogi ein cynnig yn y ddadl y prynhawn yma. Cytunwn, felly, na ddylid gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb o dan unrhyw amgylchiadau, ac rydym yn cytuno, fel mesur argyfwng, y dylai Llywodraeth Cymru ofyn am gynnull y Cydgyngor Gweinidogion i geisio cytundeb ar ddiystyru gadael yr UE heb gytundeb.
Rwy'n credu bod y cytundeb hwn rhyngom ni a'r Llywodraeth, a chydag Aelodau eraill yma yn ogystal, gobeithio, yn arwydd da fod yna ddealltwriaeth gynyddol yn y lle hwn fod yn rhaid inni wynebu gyda'n gilydd y problemau sy'n pentyrru o gwmpas Cymru ac economi Cymru sy'n bygwth storm berffaith. Ni all fod unrhyw amheuaeth nad yw'r heriau niferus sy'n wynebu, yn benodol, gweithgynhyrchu yng Nghymru, er enghraifft, ac nid yn lleiaf y diswyddiadau a gyhoeddwyd yn Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn Schaeffler yn Llanelli, naill ai'n deillio o—neu fan lleiaf, yn cael eu dwysáu gan—yr ansicrwydd parhaus ynghylch Brexit. Y peth mwyaf uniongyrchol y gallwn ei wneud i leihau'r ansicrwydd hwnnw yw tynnu'r bygythiad o Brexit 'dim bargen' oddi ar y bwrdd. Dyna beth y mae fy mhlaid yn Nhŷ'r Cyffredin—ac yn Nhŷ'r Arglwyddi hefyd yn wir, ar ffurf Dafydd Wigley—yn gwneud ei gorau glas i'w gyflawni yn y dyddiau nesaf, drwy ofyn am gydweithrediad ar draws y pleidiau yn y Senedd yn San Steffan. Mawr obeithiaf, wrth gymeradwyo'r cynnig hwn, y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfleu hefyd fel mater o frys i arweinydd y Blaid Lafur yn Nhŷ'r Cyffredin y dylai yntau hefyd geisio cydweithio â ni a phleidiau eraill yn Nhŷ'r Cyffredin er mwyn atal Brexit 'dim bargen'.