– Senedd Cymru ar 16 Ionawr 2019.
Symudwn at eitem 8, sef dadl Plaid Cymru ar Brexit 'dim bargen'. Galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6918 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwrthod ymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb o dan unrhyw amgylchiadau.
2. Yn galw ar y Prif Weinidog i ofyn bod cyd-bwyllgor Gweinidogion y DU yn cael ei ailgynnull ar fyrder er mwyn ceisio cytundeb ar ddiystyru gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu gwneud y cynnig yn enw ein plaid ac yn falch hefyd o nodi bod y Llywodraeth yn cefnogi ein cynnig yn y ddadl y prynhawn yma. Cytunwn, felly, na ddylid gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb o dan unrhyw amgylchiadau, ac rydym yn cytuno, fel mesur argyfwng, y dylai Llywodraeth Cymru ofyn am gynnull y Cydgyngor Gweinidogion i geisio cytundeb ar ddiystyru gadael yr UE heb gytundeb.
Rwy'n credu bod y cytundeb hwn rhyngom ni a'r Llywodraeth, a chydag Aelodau eraill yma yn ogystal, gobeithio, yn arwydd da fod yna ddealltwriaeth gynyddol yn y lle hwn fod yn rhaid inni wynebu gyda'n gilydd y problemau sy'n pentyrru o gwmpas Cymru ac economi Cymru sy'n bygwth storm berffaith. Ni all fod unrhyw amheuaeth nad yw'r heriau niferus sy'n wynebu, yn benodol, gweithgynhyrchu yng Nghymru, er enghraifft, ac nid yn lleiaf y diswyddiadau a gyhoeddwyd yn Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn Schaeffler yn Llanelli, naill ai'n deillio o—neu fan lleiaf, yn cael eu dwysáu gan—yr ansicrwydd parhaus ynghylch Brexit. Y peth mwyaf uniongyrchol y gallwn ei wneud i leihau'r ansicrwydd hwnnw yw tynnu'r bygythiad o Brexit 'dim bargen' oddi ar y bwrdd. Dyna beth y mae fy mhlaid yn Nhŷ'r Cyffredin—ac yn Nhŷ'r Arglwyddi hefyd yn wir, ar ffurf Dafydd Wigley—yn gwneud ei gorau glas i'w gyflawni yn y dyddiau nesaf, drwy ofyn am gydweithrediad ar draws y pleidiau yn y Senedd yn San Steffan. Mawr obeithiaf, wrth gymeradwyo'r cynnig hwn, y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfleu hefyd fel mater o frys i arweinydd y Blaid Lafur yn Nhŷ'r Cyffredin y dylai yntau hefyd geisio cydweithio â ni a phleidiau eraill yn Nhŷ'r Cyffredin er mwyn atal Brexit 'dim bargen'.
Ar ddechrau'r ddadl hon, credaf ei bod hi'n werth ailadrodd pa mor drychinebus fyddai senario 'dim bargen'. Wrth gwrs, mae'n anodd rhagweld gyda sicrwydd pendant beth fydd canlyniadau senario nad yw ei holl amrywiadau posibl, drwy ddiffiniad, wedi'u pennu hyd yn hyn. Ond credaf ei bod yn rhesymol inni ddod i gasgliad ynglŷn â natur yr effeithiau ar yr economi, ac yn y tymor byr i'r tymor canolig maent yn driphlyg—argyfwng ariannol, ergyd i fasnach a dirwasgiad domestig sy'n debygol o fod yn ddwfn ac yn hir.
O ran y marchnadoedd ariannol, mae'r bunt eisoes i lawr tua 20 y cant ers y refferendwm, heb y math o ffyniant allforio ledled y DU a ragwelai rhai pobl. Nid yw ecwiti'r DU yn ddeniadol, gan gynnwys cwmnïau ag iddynt ffocws tramor a restrir yn y DU. Mae swyddi a buddsoddiad yn anelu tramor gydag oddeutu £800 biliwn o weithrediadau staff a chronfeydd cwsmeriaid eisoes wedi symud dramor o'r sector ariannol yn unig, yn ôl adroddiad diweddar gan Ernst & Young. Yn wir, ar ein hymweliad diweddar â Gweriniaeth Iwerddon, mewn cyfarfod gydag awdurdod datblygu Iwerddon, yr IDA—wrth gwrs, maent yn brawf byw o beth allai fod yn ein hwynebu ymhellach i lawr y lôn. Mae 55 o gwmnïau eisoes wedi eu hadleoli, wrth gwrs, i Weriniaeth Iwerddon, heb y bygythiad erchyll o 'dim bargen' hyd yn oed.
Felly, ar 30 Mawrth, mewn senario lle y bydd y DU yn gadael heb unrhyw gytundeb, credaf y gallwn ddisgwyl i'r tueddiadau hyn sy'n bodoli'n barod waethygu'n gyflym ac yn sylweddol. Byddai'r bunt yn cwympo o leiaf 20 y cant arall, mae'n debyg, i'r un lefel â'r ddoler. Byddai pryder cyffredinol ynglŷn â sefydlogrwydd ariannol y DU, ynghyd ag all-lif gwyllt o gyfalaf, a byddai amrywiaeth eang o sefydliadau ariannol yn debygol o gael eu profi'n ddifrifol yn adlais o 2008, ond gyda'r dimensiwn ychwanegol fod economi'r DU a'r economi fyd-eang mewn cyflwr mwy bregus na'r adeg honno, a chanddynt lawer llai o allu i ymateb yn gadarnhaol. Mae tebygolrwydd cryf y byddai Banc Lloegr yn gorfod codi cyfraddau llog yn sydyn er mwyn ceisio cynnal hyder.
Nawr, o ran yr economi go iawn, mae'n debyg na fydd busnesau domestig yn cael eu taro mor galed â hynny ar y diwrnod cyntaf, er y byddai rhywun yn rhagweld arafu cyffredinol yn y gweithgarwch economaidd, o ystyried yr ansicrwydd ariannol, cwymp y bunt a'r cynnydd mewn cyfraddau llog, a fydd yn gyflym yn achosi hwyliau negyddol yn gyffredinol o ran hyder yn yr economi. Ar y llaw arall, er hynny, mae'r effaith ar y sector nwyddau masnachadwy yn debygol o fod yn sydyn ac yn ffrwydrol. Bydd yn effeithio ar yr holl drafodion trawsffiniol. Yn wir, bydd ffiniau newydd cyfan yn cael eu creu lle nad oeddent o'r blaen yn yr ystyr fasnachol. Bydd biwrocratiaeth, oedi, anhrefn a dryswch yn tanseilio holl sail llawer o weithgynhyrchu mewn union bryd y DU. Gellir rhagweld cwmnïau'n cau a phroblemau llif arian yn magu gwraidd yn gyflym iawn, o ystyried maint y newid a'r ansicrwydd. I wasanaethau, unwaith eto, mae hi bron yn sicr mai'r tebygolrwydd yw y ceir tarfu difrifol a bygythiad i oroesiad rhai cwmnïau, a rhagor o gatalyddion ar gyfer adleoli cwmnïau eraill. Nid oes modd mesur yn gywir faint o swyddi a fyddai'n cael eu colli yn ystod y misoedd cyntaf, ond y tebygolrwydd yw y byddai'n ffigur sylweddol, ac y byddai'r rhan fwyaf ohonynt wedi mynd am byth.
Nawr, wrth edrych y tu hwnt i'r wythnosau a'r misoedd cyntaf, mae'n wir yn hirdymor fod yr argyfyngau hynny'n datrys eu hunain yn y pen draw. Fodd bynnag, credaf ei bod yn debygol, yn yr achos hwn, oherwydd dyfnder yr effaith mewn rhai sectorau, yn enwedig y diwydiant ceir, cynhyrchion fferyllol, awyrofod, ffermio, cyllid yn ôl pob tebyg, credaf y byddai'n gadael cysgod hir o ddirywiad economaidd am lawer iawn o flynyddoedd i ddod. Ac oherwydd bod gan Gymru gyfradd uwch o'r rhan fwyaf o'r sectorau hyn, byddem yn debygol o ddioddef yn anghymesur o senario 'dim bargen'. Bydd dirwasgiad mawr yn y wlad bron yn sicr o fod yn anochel. Bydd yr ergyd enfawr i ddiwydiant, ynghyd â phrisiau cynyddol a chynnydd mewn cyfraddau llog, yn arwain at wneud pobl yn dlotach o lawer, a pheri iddynt gael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Byddai cwmnïau domestig a fydd, mae'n debyg, yn osgoi'r anhrefn cychwynnol, yn cael eu taro wedyn, mae'n debyg, gan y dirwasgiad mwyaf difrifol a welwyd yn y wlad hon ers blynyddoedd lawer. Wrth gwrs, gellid dadlau ynglŷn ag unrhyw un o'r rhagdybiaethau unigol sy'n sail i'r rhagfynegiadau a wneuthum, gallwn fod yn anghywir. Y cwestiwn yw: a yw'n risg sy'n werth ei hwynebu? A byddai'r rhan fwyaf ohonom yma, rwy'n credu, yn dadlau 'na'—mae Brexit 'dim bargen' yn annerbyniol ac mae'n ddiangen.
Ond wrth gwrs, daw hynny â ni at gwestiwn perthnasol iawn ynglŷn â sut rydym yn ei osgoi. Nawr, mae'r Llywodraeth eisoes wedi dweud ei bod yn cefnogi ymestyn erthygl 50, ac rydym yn croesawu hynny. A chlod lle y mae clod yn ddyledus—mae ar y blaen i'r Blaid Lafur yn San Steffan yn hynny o beth, sydd ar hyn o bryd ond yn dweud bod ymestyn erthygl 50 yn opsiwn sy'n werth ei ystyried. Yr hyn y buaswn i'n ei ddweud am hynny, ac rydym wedi clywed iaith opsiynau yn y ddadl Brexit mewn cyd-destunau eraill, onid ydym, yr enwog—? Rwyf bron yn teimlo fel pe bawn i wedi bod yn y drafodaeth ar gynnig cyfansawdd yn yr ystafell honno, oherwydd clywsom gymaint o gyfeirio ati o gynhadledd y Blaid Lafur. Mae amser yn brin ar gyfer opsiynau. Mewn gwirionedd, yr hyn sydd ei angen arnom bellach yw ymdeimlad clir o strategaeth a pha gamau rydym yn mynd i'w cymryd.
Felly, gan ei bod bellach wedi mabwysiadu'r safbwynt hwn ar ofyn am estyniad brys i erthygl 50, rwy'n annog y Llywodraeth i gyfleu'r neges honno i'w cymheiriaid Seneddol yn San Steffan, a byddent yn gwneud cymwynas fawr â phob un ohonom. Ac yn amlwg, yn y cynnig cyn y Nadolig, ar 4 Rhagfyr, fe bleidleisiwyd yn erbyn cytundeb Mrs May. Rwy'n gobeithio y bydd y cynnig hwn heddiw, y Senedd hon, yn pleidleisio yn erbyn Brexit 'dim bargen'. Rydym wedi bod yn ddylanwadol—yn amlwg, rydym wedi arwain mewn perthynas â chytundeb Mrs May. Rwy'n gobeithio y byddwn yn arwain mewn perthynas â Brexit 'dim bargen' yn ogystal ac y bydd y Senedd yn San Steffan hefyd yn dilyn ein hesiampl.
Ond wyddoch chi, nid yw dweud beth rydym yn ei wrthwynebu ond yn rhan o'r ateb. Y rhan nesaf yw dweud beth rydym yn ei gefnogi, ac yn y pen draw, yr unig ffordd o sicrhau'n bendant nad ydym yn mynd i weld Brexit 'dim bargen' yw inni ddod o hyd i fwyafrif cadarnhaol yn y lle hwn, yn amlwg, ond hefyd yn y Senedd arall honno, o blaid dewis amgen. Ond trafodaeth ar gyfer diwrnod arall yw honno, ac wrth hynny, wrth gwrs, yr hyn rwy'n ei olygu yw dydd Mawrth nesaf.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar Neil Hamilton i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett—Neil Hamilton.
Gwelliant 1—Gareth Bennett
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod cytundeb ymadael drafft Llywodraeth y DU yn negyddu canlyniad y refferendwm yn sylweddol, drwy gadw’r DU yn yr undeb tollau am gyfnod amhenodol ac, i bob pwrpas, yn y farchnad sengl, gan ein hamddifadu hefyd o unrhyw lais ffurfiol neu bleidlais ym mhenderfyniadau'r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn cymeradwyo ymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ac o dan delerau Sefydliad Masnach y Byd, er mwyn bodloni dymuniadau pobl y DU, a Chymru, a bleidleisiodd yn bendant i adael yr Undeb Ewropeaidd.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gofleidio adferiad sofraniaeth genedlaethol Prydain y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Ac rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Gareth ar yr agenda. Wel, dyma'r gwingo diweddaraf ymhlith y rhai nad ydynt erioed wedi derbyn canlyniad y refferendwm ddwy flynedd a hanner yn ôl. Yn betrus ar y cychwyn, ond yn gynyddol amlwg bellach, maent yn cyflwyno cynlluniau i rwystro'r canlyniad hwnnw yn gyntaf, ac yn ail, i'w wrthdroi, i aros yn y farchnad sengl a'r undeb tollau. Mae pa seilwaith bynnag sy'n amgylchynu hynny i bob pwrpas yn golygu nad ydym yn gadael yr UE. Gwnaethpwyd hynny'n glir yn ymgyrch y refferendwm, lle y rhybuddiodd pob plaid pe bai pobl yn pleidleisio dros adael, y byddai'n golygu dod allan o'r farchnad sengl, dod allan o'r undeb tollau, a byddai Armagedon yn dilyn yn union fel y mae'r nos yn dilyn y dydd. Wel, ni wnaeth, wrth gwrs, fwy nag y gwnaeth pan gawsom yn union yr un proffwydoliaethau ynghylch mecanwaith y gyfradd gyfnewid pan oedd Prydain yn aelod o'r sefydliad trychinebus hwnnw 25 mlynedd yn ôl. Pan adawsom, wrth gwrs, agorodd wawr newydd a arweiniodd at gyfnod o dwf digyffelyb.
A phan fyddwn wedi cwblhau'r broses hon, fel y gobeithiaf y gwnawn, ac wedi gadael yr UE, bydd y rhyddid y bydd yn ei roi i ni, yn y tymor canolig i'r tymor hir, yn amlwg iawn. Mae'r math o ddarlun Hieronymus Bosch a baentiwyd gan arweinydd Plaid Cymru yn hurt pan edrychwch ar y ffigurau, y byddwn yn mynd i mewn i'r dirwasgiad mwyaf hirfaith o fewn cof. Onid yw'n cofio dirwasgiad go iawn 10 mlynedd yn ôl? Neu edrychwch ar wlad Groeg neu'r Eidal heddiw os ydych am weld beth yw amddifadedd go iawn.
Roedd ein hallforion i'r Undeb Ewropeaidd yn £274 biliwn y llynedd—rhan sylweddol iawn o'n cynnyrch domestig gros, yn sicr. Mewnforiwyd llawer mwy ganddynt hwy, wrth gwrs, am fod gennym ddiffyg masnach gyda hwy o £67 biliwn y flwyddyn, ond nid oes neb yn sôn am wahardd masnach rhwng yr UE a'r Deyrnas Unedig. Y lefel gyfartalog o dariff yn y sector anamaethyddol—a 2 y cant yn unig o gynnyrch domestig gros y DU yw amaethyddiaeth, ond yn y sector anamaethyddol, y tariff UE cyfartalog yw 2.6 y cant. A phan fyddwch yn ystyried, fel y nododd Adam Price, fod gostyngiad o chwe gwaith hynny wedi bod yng ngwerth y bunt ers y refferendwm, byddai gosod tariffau, pe bai'n digwydd—ac nid wyf o blaid tariffau; rwyf eisiau cytundeb masnach rydd gyda'r UE—. Ond pe baem yn gweld tariffau'n cael eu cyflwyno ar y ddwy ochr, ni fyddai ond yn gyfran fach o'r ganran honno o 16 y cant a allai gael ei heffeithio.
Mae llawer o bobl yn masnachu gyda'r UE mewn sectorau lle na fyddai unrhyw dariffau o gwbl; mewn eraill, maent yn ddibwys. Wrth gwrs, ceir sectorau, megis y sector modurol, lle mae cyfradd y tariff yn 10 y cant, ond mae gennym ddiffyg enfawr mewn deunyddiau modurol. Roedd 86 y cant o'r holl gofrestriadau ceir newydd yn y Deyrnas Unedig y llynedd yn gerbydau a fewnforiwyd. Rydym wedi colli'r rhan fwyaf o'n gweithgynhyrchiant modurol yn y Deyrnas Unedig dros y blynyddoedd. Mae'r Almaen yn allforio un o bob saith o bob cerbyd a weithgynhyrchir yn yr Almaen i Brydain. Nid ydynt yn mynd i fod eisiau—byddent yn ffôl pe baent eisiau gweld tariffau'n cael eu cyflwyno rhyngom a fyddai'n cyfyngu ar fasnach. Mae problemau'r Almaen yn fwy o lawer o ran beth sy'n digwydd yn Tsieina nag unrhyw beth sy'n debygol o ddigwydd ym Mhrydain yn ystod y 18 mis nesaf. Felly, rwy'n credu bod ganddynt frwydrau eraill i'w hymladd.
Na, nid oes a wnelo ein buddiannau ni â diystyru Brexit 'dim bargen', fel y'i gelwir, os byddwn yn gadael ar 29 Mawrth heb fod wedi dechrau ar y negodiadau hyd yn oed i roi rhywbeth yn ei le. Byddem yn gadael ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, fel sydd gennym gyda gweddill y byd. Mae 60 y cant o'n hallforion bellach yn mynd i weddill y byd, ac rydym yn masnachu'n ddigon hapus gyda hwy ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, ac ni allwn ddechrau negodiadau masnach rydd gyda phartneriaid masnachu pwysig eraill, fel yr Unol Daleithiau, hyd nes y byddwn wedi gadael yr undeb tollau, gan mai'r UE yw'r unig negodwr ar gyfer pob aelod o'r undeb tollau.
Felly, mae yna gyfleoedd, sy'n cael eu hesgeuluso'n gyfan gwbl yn y senario lawn gwae a baentiwyd gan Adam Price yn ei araith agoriadol yn y ddadl hon. Prydain yw'r bumed economi fwyaf yn y byd. Rydym yn flaenllaw ym mhob math o ddiwydiant, a diwydiannau'r dyfodol, fel deallusrwydd artiffisial a diwydiannau technolegol eraill. Llundain yw prif ganolfan ariannol y byd. Ni chaiff hynny ei danseilio gan Brydain yn gadael yr UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd. Mae gennym seilwaith ariannol yn y wlad hon nad oes mo'i debyg yn unman arall heblaw yr Unol Daleithiau. Nid yw Frankfurt byth yn mynd i godi'n uwch na Llundain fel canolfan ariannol fawr. Bydd yr UE yn dal i orfod defnyddio Llundain ar gyfer y rhan fwyaf o'r gweithgarwch codi cyfalaf mawr sydd eu hangen yn Ewrop. Wrth gwrs, bydd rhywfaint o newid strwythurol o ganlyniad i adael yr UE, a bydd angen i fanciau a sefydliadau ariannol eraill sefydlu swyddfeydd yn yr UE er mwyn bodloni eu gofynion rheoliadol, ond nid yw'n mynd i gostio dim i ni yn fwy hirdymor. Yn sicr, yn y tymor byr, bydd yna gostau trosiannol. Mae pawb wedi derbyn hynny o'r cychwyn.
Ond os awn tua'r dyfodol gan gredu'n syml ei bod hi ar ben arnom fel gwlad, ac na allwn wneud unrhyw beth yn y byd, nid yn unig y byddwn yn camfarnu ein pobl ein hunain a hefyd mewn gwirionedd yn ffugio ein hanes ein hunain, ond byddwn yn cau'r drws ar ddyfodol nid yn unig ein cenhedlaeth iau sydd yma yn barod, ond holl genedlaethau'r dyfodol, gan mai'r cyfan rydym yn ceisio ei wneud yw'r hyn y buaswn wedi credu y byddai Plaid Cymru ei eisiau yn fwy na dim arall, sef cael yr hawl i hunanlywodraeth ar gyfer ein gwlad ein hunain: y Deyrnas Unedig yn yr achos hwn, sy'n cynnwys Cymru.
Galwaf ar Darren Millar i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn ei enw e—Darren Millar.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i. Wrth gwrs, mae hon yn ddadl amserol iawn, o ystyried digwyddiadau neithiwr. Roedd y bleidlais ystyrlon ar gytundeb ymadael â'r UE Prydain yn gyfle, yn fy marn i—yn gyfle i wleidyddion o bob un o bedair gwlad y DU, o bob lliw gwleidyddol a dim lliw gwleidyddol, y rhai a oedd am aros yn yr UE, a'r rhai sydd am adael, i roi eu gwahaniaethau o'r neilltu a rhoi ideoleg ar aelodaeth o'r UE o'r neilltu, a cheisio gweithredu er lles y wlad. Ac mae'n ofid dwfn i mi, yn anffodus, na fanteisiwyd ar y cyfle a roddwyd. Nawr, gwyddom fod y cloc yn tician mewn perthynas â 29 Mawrth, y dyddiad pan fyddwn yn gadael yr UE, sef y targed, ar hyn o bryd beth bynnag, a chredaf ei bod yn bwysig ac yn hanfodol fod unrhyw Lywodraeth, yma ac yn San Steffan, yn gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth a allwn i adael yr UE ar 29 Mawrth mewn ffordd drefnus. Ac wrth gwrs, dyna'n union y ceisiodd Llywodraeth y DU ei wneud. [Torri ar draws.] Wrth gwrs y gwnaf.
Diolch yn fawr iawn i Darren Millar am dderbyn ymyriad. Rwy'n ddiolchgar. A fyddech chi'n derbyn y byddai Brexit 'dim bargen' yn senario y byddech hefyd yn dymuno ei hosgoi, ac yn y cyd-destun hwnnw, os nad yw'n bosibl osgoi Brexit 'dim bargen', ac nad oes angen trafodaethau pellach yn San Steffan ymhlith yr uwch-seneddwyr y soniodd Mrs May amdanynt, efallai y bydd angen ymestyn y dyddiad ar ôl 29 Mawrth? Oherwydd mae'r cloc yn tician.
Edrychwch, wrth gwrs, byddai'n well gennyf ein gweld yn gadael yr UE gyda chytundeb. Wrth gwrs y byddai'n well gennyf hynny. Fodd bynnag, nid wyf yn credu y gallwch ddiystyru'r posibilrwydd o Brexit 'dim bargen' yn llwyr, oherwydd os gwnewch hynny, rydych yn ildio eich holl rym bargeinio i'r UE ac yn dweud wrthynt, 'Ni waeth beth fyddwch yn ei roi inni, fe fyddwn yn ei gymryd oherwydd ni fyddwn yn diystyru Brexit 'dim bargen'. Felly, nid yw'n strategaeth negodi dda. Wrth gwrs. Rwyf eisiau cytundeb. Rwyf eisiau cytundeb da i'r Deyrnas Unedig wrth i ni adael, ac rwyf eisiau cytundeb da i Gymru. A chredaf mai dyna pam y gwelsom ymateb gan Lywodraeth y DU, sydd wedi derbyn canlyniad y bleidlais neithiwr, ond mae hefyd wedi estyn allan at bobl ar yr ochr draw ac ym mhob rhan o'r DU o ran y gweinyddiaethau datganoledig ac wedi dweud , 'Iawn, o'r gorau, rydym yn derbyn canlyniad y bleidlais. Helpwch ni yn awr i saernïo rhywbeth y gallwn oll gytuno arno fel bod yna ymagwedd tîm DU wrth inni adael yr UE.'
Diolch yn fawr iawn i chi am dderbyn ymyriad. Mae 72, 73 diwrnod nes y dyddiad pan ydym i fod i—. Gwn eich bod yn dechrau cynhyrfu ynglŷn â hyn, ond rydym yn agos iawn at y dyddiad gadael. Onid ydych yn cytuno ei bod hi braidd yn hwyr bellach i estyn allan at bobl a ninnau wedi bod yn gweiddi yn y Cynulliad hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf am gael ein llais wedi'i glywed, gan gynnwys drwy'r ddogfen, 'Diogelu Dyfodol Cymru', ac fe anwybyddodd y Llywodraeth hynny?
Nid oes dim fel nesu at ddyddiad terfyn i ddod â phobl at ei gilydd a dod â meddyliau ynghyd er mwyn dod o hyd i ffordd drwodd. Nid wyf o blaid gohirio dyddiad ymadael erthygl 50 oherwydd rwy'n credu mai'r hyn a fyddai'n digwydd yw y byddem yn dal ati i'w ohirio a byth yn gwireddu canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin 2016 pan bleidleisiodd pobl Cymru dros adael yr UE.
Nawr, rhaid imi ddweud, mae Plaid Cymru wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw, ac rwy'n deall pam eu bod wedi cyflwyno'r cynnig hwn, oherwydd maent am inni wrthod senario 'dim bargen'. Ond mae'r hyn a wnaethant ddoe yn pleidleisio yn erbyn cytundeb y Prif Weinidog a oedd gerbron Tŷ'r Cyffredin wedi gwneud sefyllfa 'dim bargen' yn fwy tebygol. Felly, credaf ei bod ychydig yn rhyfedd, yn wir, fod pobl sydd am ddiystyru Brexit 'dim bargen' wedi gwrthod cytundeb y Prif Weinidog mor hwyr yn y broses.
Ac wrth gwrs, yr hyn a welsom gan y Blaid Lafur yw sefyllfa lle nad oes ganddynt syniad clir mewn gwirionedd o beth y maent ei eisiau o ran gadael yr UE. Maent yn gwneud llawer o synau ynglŷn â beth y credant y dylai Llywodraeth y DU ei wneud a gofyn amdano gan yr UE o ran y trefniadau ar gyfer gadael, ond wrth gwrs, maent yn ofynion afrealistig. [Torri ar draws.] Rwyf wedi derbyn llawer o ymyriadau eisoes. Rwy'n ymddiheuro. Ychydig eiliadau sydd gennyf ar ôl.
Felly, ni fyddwn yn cefnogi eich cynnig heddiw. Credwn ei bod yn bwysig i Lywodraeth Cymru, ynghyd â'r llywodraethau datganoledig eraill, weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a chydweithredu i geisio llunio cytundeb y gall pawb ohonom ei gefnogi er mwyn i'r DU allu gadael mewn modd trefnus, gyda chyfnod pontio, tuag at berthynas fasnachu yn y dyfodol a fydd yn sicrhau'r llwyddiant y mae pobl ei eisiau yn sgil Brexit. Ac mae'n ddyletswydd ar bawb ohonom i wneud yn siŵr ein bod yn cydweithio i gyflawni'r nodau hynny.
Roeddwn yn awyddus i gyfrannu rhai pethau gan mai'r hyn sy'n cael ei greu yw'r argraff fod Brexit 'dim bargen' yn iawn gan y gall pawb ohonom syrthio'n ôl ar reolau Sefydliad Masnach y Byd a bod hanner y byd a hanner ein masnach o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd ac ati. Hynny yw, a dweud y gwir yn onest, mae hynny'n nonsens llwyr. Ni fyddai'r unig wlad yn y byd sy'n masnachu o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd yn unig. Ar un adeg, rwy'n credu bod Mauritius yn masnachu o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd; efallai mai hyd a lled ei heconomi hi yw'r hyn sydd gan Theresa May mewn golwg ar gyfer economi'r DU, ond mae'n nonsens llwyr. Yr eiliad y byddwn yn dod yn ddarostyngedig i reolau Sefydliad Masnach y Byd, yn gyntaf, ar gyfer cynnyrch anamaethyddol, ceir cynnydd enfawr yn y tariffau, ond nid yn unig hynny, ni chawn opsiwn o ddim ond masnachu gyda hwy, oherwydd ceir cwotâu ar gyfer pob math o gynnyrch. Byddai'n senario gwbl drychinebus. Byddem yn colli pob cytundeb masnach rydd rydym yn elwa ohonynt ar hyn o bryd. Ceir 35 o gytundebau masnach rydd rydym yn elwa ohonynt yn rhinwedd ein haelodaeth o'r UE, ac mae 48 ar waith yn rhannol ar hyn o bryd, mae yna 22 yn yr arfaeth a 21 wrthi'n cael eu negodi. Byddem yn colli budd pob un o'r rheini ac ni allem gael dim yn eu lle heb orfod negodi 100 a mwy o gytundebau masnach newydd gyda phob gwlad yn y byd.
Nawr, mae wedi cymryd dros ddwy flynedd i Theresa May lunio cytundeb da i ddim gyda'r UE na all ei gael drwy'r Senedd hyd yn oed. Mae'r syniad fod y Llywodraeth hon yn mynd i allu negodi 100 o gytundebau masnach rydd newydd, neu 10 hyd yn oed, un neu ddau o gytundebau masnach newydd hyd yn oed, o fewn ychydig o flynyddoedd yn nonsens llwyr. Mae'r—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Bydd hawl taid yn dod yn weithredol ar lawer o'r cytundebau masnach rydd hyn sydd gennym ni a'r UE ar y cyd, felly bydd llawer ohonynt yn mynd ymlaen i gael hawl taid gyda ni'n gwahanu ac yn llofnodi ein henwau arnynt yn ogystal.
Wel, dyna ni, dyna ni'n ei weld eto. Chwedloniaeth bur. O ble ar y ddaear y daw'r syniadau rhyfedd hyn? Ai gêm UKIP o Trivial Pursuit neu rywbeth ydyw? Mae hynny'n nonsens llwyr, oherwydd ni allwn ei wneud; ceir pob math o agweddau ar gytundebau masnach yr UE sy'n cyfyngu ar allu gwledydd eraill i gael yr un telerau heb gytundeb yr UE. Ceir cymaint o gyfyngiadau, fel bod y syniad eu bod oll yn sydyn yn disgyn i'w lle yn gyfan gwbl hurt. A dyna yw'r broblem gyda UKIP—y fytholeg y maent wedi bod yn ei chreu. Fe fyddech yn meddwl, fan lleiaf, gyda'u safbwynt cenedlaetholgar diwyro, y byddent o leiaf yn dweud, 'Wel, mae'n mynd i fod yn anodd, mae'n mynd i fod yn drychinebus, ond dyma rydym ei eisiau oherwydd rydym yn genedlaetholwyr Prydeinig a dyma yw ein hideoleg'. Wel, o leiaf gallech barchu hwnnw fel safbwynt. Ond mae dweud ar y naill law, 'Dyma rydym yn mynd i'w wneud, ond peidiwch â phoeni am y peth oherwydd mae'r holl bethau hudol hyn ar eu ffordd; rydym yn mynd i wasgaru ychydig o lwch hudol, neu beth bynnag ydyw, ar bob cytundeb ac yn sydyn byddant yn trosi draw'. Byddai'n drychineb llwyr.
Roeddwn yn siarad â GE Aviation yn fy etholaeth. Un o'r problemau y maent yn eu hwynebu yw'r ffaith eu bod ar y lefel uchaf o beirianneg, ond mae ganddynt 2,000 neu 3,000 o gydrannau ym mhob injan sy'n cael eu hanfon i bob rhan o'r byd. Nawr, yn y bôn bydd unrhyw oedi yn hynny yn eu gwneud, dros gyfnod o amser, yn anghystadleuol. Nid yw'n golygu y bydd trychineb yn eu taro'n sydyn dros nos, ond gallwch fod yn siŵr, pan ddaw'r camau nesaf o ran buddsoddi, pan fydd y dyfodol dan ystyriaeth, pan fydd ad-drefnu o fewn busnesau—. Ble fyddant bryd hynny? Ble fyddai unrhyw gwmni rhesymegol yn ei ddewis? A dyna'r dilema. Felly, yr un peth y buaswn yn ei ddweud yw bod—. Hynny yw, gallaf gefnogi'r cynnig hwn oherwydd mae'n gwneud synnwyr perffaith. Ond un peth y buaswn yn ei ddweud wrth y rheini sy'n ei wrthwynebu—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Fe dderbyniaf ymyriad cyflym.
Dyma'r tro cyntaf i chi ddatgan eich cefnogaeth i'r cynnig. Os ydych yn dweud nad oes unrhyw amgylchiadau y byddem yn gadael heb gytundeb, onid ydych yn derbyn y byddai'r UE wedyn yn dal y DU ar gledr ei law, oherwydd byddem yn derbyn unrhyw beth a roddir inni am ein bod wedi diystyru'r un peth sydd gennym at ein defnydd—gallu codi a cherdded ymaith a dweud, 'Anghofiwch amdano, nid yw'n ddigon da'?
Onid yw hynny'n hollol hurt? Y syniad ein bod i gyd yn cytuno y byddai gadael heb gytundeb yn drychinebus ac nad ydym yn barod i ddweud hynny. Mae'r ysgrifen ar y mur; mae'n drychinebus. Nid ydym yn twyllo neb, nid ydym yn twyllo'r UE ynglŷn â hyn. Gwyddom fod 'dim bargen' yn drychinebus ac nid oes neb yn ei iawn bwyll eisiau dilyn llwybr 'dim bargen'. A dyna'r broblem, oherwydd—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, na, rwyf wedi derbyn dau. Dyna'r broblem go iawn, oherwydd yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd o ochr y Ceidwadwyr yw bod hyn yn ymwneud â diogelu buddiannau'r Blaid Geidwadol am na wnaiff Theresa May wynebu realiti'r sefyllfa wleidyddol y mae ynddi. Pe bai ganddi unrhyw wyleidd-dra o gwbl, byddai'n gwneud y peth iawn, sef cydnabod y grasfa hanesyddol a gafodd a pharatoi i fynd at y bobl ac ymddiried ynddynt, a chael etholiad cyffredinol.
Gadael heb gytundeb—dwi ddim yn gwybod lle mae rhywun yn dechrau, mewn difri. Mi ddywedaf i, yn gyntaf, fy mod i yn parchu bod yna wahanol safbwyntiau yn y ddadl ar Brexit, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod y lleiafrif bach sydd yn ffafrio gadael heb unrhyw fath o gytundeb yn barod i gymryd risg llawer rhy afresymol efo'n lles cymdeithasol ac economaidd ni, a dyna pam rydym ni fel plaid heddiw wedi cyflwyno'r cynnig digon syml yma, fel bod y Cynulliad eto yn gallu siarad yn glir yn dweud bod rhaid sicrhau, doed a ddêl, fod gadael heb gytundeb yn gorfod cael ei osgoi.
Dwi'n diolch ymlaen llaw i'r rheini, gan gynnwys ar feinciau'r Llywodraeth, sy'n mynd i fod yn ein cefnogi ni heddiw. Faint o wrando a fydd ar y Cynulliad? Mae'n profiad ni dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf yn awgrymu dim llawer. Mae holl fater Brexit wedi dangos i fi mor niweidiol a di-hid ydy'r wladwriaeth Brydeinig o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Fel mae'r Prif Weinidog ei hun wedi ei ddweud, a Steffan Lewis ac eraill sydd wedi bod yn rhan o'r trafodaethau Brexit ac yn ymwneud â nhw dros y blynyddoedd diwethaf, mae barn Cymru wedi cael ei hanwybyddu yn llawer rhy aml, a'n dyhead ni i ddiogelu dyfodol ein cenedl ni wedi cael ei anwybyddu hefyd.
Ond mae'n rhaid i ni unwaith eto heddiw godi llais, a dyna'n bwriad ni drwy gyflwyno'r cynnig yma. Do, mi bleidleisiodd pobl Cymru o fwyafrif bach ar yr egwyddor o adael ar sail yr addewidion a wnaed, ond dwi'n hyderus na wnaeth pobl bleidleisio i niweidio'r economi. Mi oedd yr addewidion a wnaed yn rhai gwag, wrth gwrs. Dwi'n clywed Mark Reckless yn bytheirio o'i sedd draw yn y fan acw, ac yn gweiddi yn gynharach yn y Siambr, 'Mi golloch chi—get over it.' Nid dyna lefel y ddadl sy'n mynd i ddod â phobl at ei gilydd yn dilyn hyn, beth bynnag ydy canlyniad hyn, ac mi ddylai bod gennych chi gywilydd o'r ffordd blentynnaidd rydych chi ar y pwynt yma yn ddadl yn ymwneud â hyn.
A wnaiff yr Aelod ildio? A wnaiff yr Aelod ildio? Mae'n dweud 'beth bynnag fydd canlyniad' hyn. Y canlyniad oedd bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Y broblem yw nad yw pobl debyg iddo ef eisiau gweithredu'r canlyniad hwnnw a gwnânt bopeth sy'n bosibl i'w rwystro. Drwy ddweud, 'Mae'n rhaid inni adael beth bynnag; ni wnawn dderbyn Brexit "dim bargen" ', rhaid ichi dderbyn beth bynnag y byddant yn ei roi i chi. Ond dyna rydych chi ei eisiau, oherwydd rydych chi eisiau aros yn yr UE a rhwystro pobl Cymru a'r hyn y maent wedi ei benderfynu.
Cawsoch eich ethol gan blaid mewn etholiad ddwy flynedd a hanner yn ôl a oedd yn ymgyrchu'n agored yn erbyn datganoli 20 mlynedd ar ôl y refferendwm i sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae gennyf ferch a oedd yn 16 oed ar adeg y refferendwm hwnnw. Bellach mae hi'n 18, mae hi'n oedolyn, mae hi eisiau dweud ei barn ynglŷn â'i dyfodol. Rwyf fi hefyd am iddi gael dweud ei barn ynglŷn â'i dyfodol. Rwy'n credu mewn democratiaeth. Rwy'n credu mewn gwneud democratiaeth yn berthnasol heddiw. Rwy'n credu mewn gofyn i bobl beth y maent ei eisiau heddiw, yn hytrach na dim ond gwrando ar yr hyn a ddywedasant ddwy flynedd a hanner yn ôl, rhag ofn eu bod hwy, gan eich cynnwys chi, Mark Reckless—. Efallai eich bod wedi newid eich meddwl. Rwy'n digwydd gwybod beth rydych yn ei feddwl, ond nid wyf yn gwybod beth yw barn pobl y wlad, ac rwyf am i bobl gael cyfle i fyfyrio heddiw, ar sail y dystiolaeth sydd gennym ger ein bron heddiw, a ydynt yn credu mai dyma'r llwybr gweithredu cywir i ni ei ddilyn fel gwlad, ac nid oes amheuaeth o gwbl na fydd dilyn strategaeth 'dim bargen' o fudd i Gymru, ac ni allaf gymeradwyo mewn unrhyw ffordd, na chaniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn gymeradwyo caniatáu i Brexit 'dim bargen' ddigwydd. Dyna pam rwy'n falch y bydd y Cynulliad hwn ymhen yr awr, neu lai nag awr, yn pleidleisio i ddweud na fyddwn mewn unrhyw amgylchiadau yn derbyn Brexit 'dim bargen'. Nawr, mae hyn yn ymwneud â democratiaeth ac mae'n ymwneud â democratiaeth heddiw a gwrando o ddifrif ar bobl, nid gweiddi am 'ddod drosti' ar eich eistedd. Dylai fod gennych fwy o brofiad na hynny o'ch dyddiau yn y Senedd.
Mae fy amser yn brin. Ar sawl lefel, rydym yn gwybod beth fydd effaith Brexit 'dim bargen'. Rwy'n cofio mynd ar draws y ffordd, ar y diwrnod dirgelaidd hwnnw pan fu'n rhaid inni roi ein ffonau symudol mewn blwch fel na allem dynnu lluniau o amcanestyniadau Llywodraeth y DU ei hun o effeithiau Brexit. Roedd yn ddeunydd darllen erchyll, hyd yn oed y ffyrdd o adael yr Undeb Ewropeaidd a gâi eu rheoli. Gwyddom y byddai senario 'dim bargen' yn niweidiol tu hwnt. Ford, yr wythnos hon—a ydym o ddifrif yn meddwl y bydd Brexit yn rhoi mwy o hyder i Ford ddiogelu 1,000 o swyddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr? A ydym o ddifrif yn meddwl nad oedd gan Brexit unrhyw ddylanwad o gwbl yn yr hyn a ddigwyddodd i Wylfa a'r cyhoeddiad rydym yn ei ddisgwyl yfory ar atal y gwaith hwnnw? A ydym yn credu'n onest nad yw ein busnesau, fel ffermwyr cregyn gleision y Fenai, yn poeni os caiff y 97 y cant o'u cynnyrch sydd angen ei gyflenwi'n fyw i'r Undeb Ewropeaidd o fewn 24 awr ei fygwth oherwydd tariffau, hyd yn oed os yw'n fesur dros dro'n unig? A ydym yn poeni am yr effeithiau ar ein diwydiant amaethyddol? Mae Neil Hamilton yn sôn am dariffau—anamaethyddol. Beth am y rhai amaethyddol? Beth am amaethyddiaeth yn fy etholaeth? Beth am effeithiau colli pobl ifanc? Beth am effeithiau colli pobl ifanc o'r diwydiant amaethyddol yn fy etholaeth oherwydd eu bod yn colli'r farchnad allforio? Nid dyma'r araith yr oeddwn am ei rhoi, ond dyna pa mor gryf rwy'n teimlo ynglŷn â hyn, a dyna pam y mae angen inni egluro—[Torri ar draws.]
Caiff y Llywydd ganiatáu ymyriad, David, os ydych am wneud un.
Fe wnaiff y Llywydd ei ganiatáu os gofynnir amdani. Ni ofynnir amdano.
Rydych chi'n rhy hwyr. Mae gennym Aelodau UKIP na allant benderfynu a ydynt am ymyrryd. Mae gennym gyn-Aelodau UKIP yn cyrraedd ar ôl i'r areithiau agoriadol gael eu gwneud heb unrhyw barch at y sylwadau a wnaethpwyd yn gynharach. Wel, nid dyna fel y mae'n gweithio. Beth am wneud safiad heddiw, fel rwy'n hyderus y gwnawn, a dweud na fydd Brexit 'dim bargen' yn gweithio i Gymru. Ni fydd yn gweithio i'n pobl ifanc yn y dyfodol.
Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles.
Llywydd, o ystyried yr anhrefn yn y Senedd yn Llundain, ac wrth i ni aros am ganlyniad y bleidlais ar y cynnig o ddiffyg hyder heno, nawr yw'r amser i sicrhau ein bod ni'n gweithio tuag at un nod unedig yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, gwneud yn siŵr bod buddiannau allweddol Cymru'n cael eu nodi'n glir a'u diogelu. Dyna fu ein prif amcan ers y refferendwm yn 2016.
Rydw i'n ddiolchgar i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig yma. Rŷn ni'n ei gefnogi'n llawn. Mae 'dim cytundeb' yn ganlyniad hollol annerbyniol. Dyma'n safbwynt ni fel plaid yma ac yn San Steffan. Dyna'r sefyllfa waethaf bosib, a Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi gwastraffu dwy flynedd yn ailadrodd bod, 'Dim cytundeb yn well na chytundeb gwael' pan ddylai hi fod wedi bod yn datblygu strategaeth ymarferol a cheisio cael cefnogaeth iddi ar draws y pleidiau. 'Dim cytundeb' yw'r sefyllfa waethaf oll. Rŷn ni wedi bod yn dweud hynny ers y diwrnod cyntaf. Mae'r holl dystiolaeth gredadwy yn dangos y byddai ymadael heb gytundeb yn arwain at golli mwy o swyddi, yr economi'n crebachu, ansicrwydd, a chostau i fusnesau sy'n allforio, fel y disgrifiodd Adam Price, ond hyd yn oed busnesau cartref lle maen nhw'n dibynnu ar gadwyni cyflenwi yn Ewrop. Mae bron yn anghredadwy y byddai unrhyw lywodraeth yn Senedd y Deyrnas Unedig yn gallu caniatáu’r fath ganlyniad sydd mor amlwg a phendant yn groes i fuddiannau'r wlad. Dywedir nad oes mwyafrif yn y Senedd o blaid Brexit heb gytundeb. Mae'r Prif Weinidog yn dweud y bydd hi'n gwrando ar y Senedd. Mae'n hen bryd, nawr, felly, ein bod hi'n ystyried yn ofalus y lleisiau sy'n cael eu codi yn erbyn 'dim cytundeb'.
O safbwynt ail ran y cynnig, mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu eisoes at Theresa May yn gofyn am ailgynnull Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ar fyrder ar ffurf cyfarfod llawn i drafod yr argyfwng yn dilyn y bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin neithiwr. Mae wedi nodi'n glir bod hynny ar y dybiaeth y bydd y Llywodraeth yn groes i'r bleidlais o ddiffyg hyder, ac na fydd hi wedi gwneud yr hyn y dylai hi fod wedi'i wneud ar ôl colli mor drwm, sef camu o'r neilltu. Yn ei lythyr, mae wedi gofyn i'r cyfarfod gytuno ar bedwar peth, sef: diystyru ymadawiad heb gytundeb fel canlyniad i'r negodiadau; ymrwymo i gynnal, ar unwaith, cyfres o drafodaethau trawsbleidiol yn y Senedd a chydweithio gyda'r sefydliadau datganoledig i gytuno ar ffordd newydd ymlaen—dylai hyn gynnwys ailnegodi yn seiliedig ar ymrwymiad cadarn i gymryd rhan yn y farchnad sengl ac mewn undeb tollau neu roi'r dewis yn ôl i bobl y Deyrnas Unedig drwy ymrwymo i etholiad cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus; gofyn am estyn proses erthygl 50 i hwyluso hyn; a deddfu i ddileu'r cyfeiriad at 29 Mawrth fel y diwrnod ymadael yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd.
O'n rhan ninnau, rŷn ni'n croesawu'r ymrwymiad, er mor hwyr yw e, y bydd y Llywodraeth Geidwadol, os bydd yn goroesi, yn gweithio mewn ffordd drawsbleidiol gyda Thŷ'r Cyffredin i ddod o hyd i'r ffordd ymlaen. Bydd rhaid i hyn wrth gwrs gynnwys meinciau blaen yr holl wrthbleidiau a'r sefydliadau datganoledig. Rhaid i'r Llywodraeth hefyd wneud yr hyn yr addawodd ei wneud wrth sefydlu'r Cydbwyllgor Gweinidogion ar negodiadau'r Undeb Ewropeaidd a cheisio cael consensws ar y ffordd ymlaen gyda ni a Llywodraeth yr Alban.
Lywydd, na foed inni fod dan unrhyw gamargraff ynglŷn â difrifoldeb y sefyllfa hon. Nodaf mai un peth na ddywedodd y Prif Weinidog neithiwr, er gwaethaf y grasfa ddifrifol a gafodd, oedd y byddai'n gofyn am ymestyn erthygl 50 i roi lle i anadlu ar gyfer y dull newydd o weithredu yr oedd yn ei gynnig. Yn wir, mae ffigyrau Llywodraeth wedi parhau i ddweud nad oes angen estyniad o'r fath. Yn y cyfamser, fel y dywedodd y Llywydd Tusk, mae'r risg o Brexit anhrefnus wedi cynyddu. Fel y cawsom ein hatgoffa gan Mick Antoniw, byddai Brexit anhrefnus, yn dod â thariffau a chwotâu yn ei sgil, er gwaethaf breuddwyd gwrach Neil Hamilton.
Fel y saif pethau, byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth. Dyna y mae'r gyfraith yn ei ddweud ar hyn o bryd. Ni all hyn newid oni bai bod Llywodraeth y DU yn ymyrryd mewn modd pendant. Galwn arnynt i ofyn i'r Undeb Ewropeaidd ohirio dyddiad gadael erthygl 50 a diwygio ein deddfwriaeth ddomestig, ond er mwyn i'r cais hwn lwyddo mae'n rhaid iddi fod yn glir fod y Llywodraeth o ddifrif ynglŷn â sicrhau'n gyflym ffordd o weithredu a all ennyn cefnogaeth eang ar draws y Senedd a'r wlad gyfan ac un sy'n dderbyniol i'r UE-27. Yn rhy aml gwelsom y Prif Weinidog yn cyfarfod ag arweinwyr UE gyda chynigion afloyw. Yn awr, yn fwy nag erioed, mae'r wlad angen cynigion cadarn a chyflawnadwy, a geilw hyn am ailysgrifennu'r datganiad gwleidyddol yn sylfaenol. Nid yw mân addasiadau'n mynd i wneud y tro ac ni fyddant yn ennyn cytundeb yn y Senedd yng ngoleuni'r grasfa neithiwr.
Yn y cyfamser, rhaid inni baratoi ar gyfer realiti Brexit 'dim bargen' orau y gallwn. Dywedais hynny ddoe yn fy natganiad, a dywedodd y Prif Weinidog hynny yr wythnos diwethaf yn ei ddatganiad ef, ac eto heddiw. Dyna'r unig lwybr gweithredu sy'n agored i Lywodraeth gyfrifol sy'n blaenoriaethu lles ein pobl yn anad dim arall. Dyna pam yr ydym yn cynnig aildrefnu busnes yn y Cynulliad hwn ddydd Mawrth nesaf i ganolbwyntio ar baratoadau 'dim bargen'. Er gwaethaf yr holl anghytuno rhyngom, rydym yn gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU a'n partneriaid yma yng Nghymru a byddwn yn parhau i wneud hynny, ond byddai canlyniad o'r fath yn warth. Dewis lleiafrif pitw o ideolegwyr a phenboethiaid yn y Senedd ac yn y wlad ydyw a byddai'n achosi niwed mawr yn y ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru ac eraill yn y Cynulliad hwn wedi'u disgrifio heddiw ac yn gyson dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf.
Cydweithiodd Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru ar y cychwyn a chynhyrchu 'Diogelu Dyfodol Cymru', sef cyfres gadarn o safbwyntiau'n diffinio buddiannau Cymru, ac mae wedi dal prawf amser. Llwyddasom i wneud hyn gan barchu'r ffaith bod gwahaniaethau rhyngom wrth gwrs a bydd y rheini'n parhau, ond os gallasom gytuno ar y materion mawr, gwnaethom hynny er lles y wlad. Fel y dywedais ddoe yn fy natganiad, os gallasom ni gynhyrchu safbwynt ar y cyd, wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad hwn ddwy flynedd gyfan yn ôl, pam na allodd Llywodraeth y DU wneud yr un peth? Rhaid i'r Prif Weinidog ymgysylltu â meddwl agored yn awr â'r Senedd a'r sefydliadau datganoledig, anghofio ei llinellau coch a rhoi budd y wlad yn gyntaf.
Lywydd, nodaf fod y gwelliant a gyflwynwyd gan y grŵp Ceidwadol yn galw arnom i weithio'n adeiladol â Llywodraeth y DU i gyflawni canlyniadau refferendwm 2016. Wrth gwrs, byddwn yn parhau i weithio gyda pha Lywodraeth bynnag sydd mewn grym, fel y gwnaethom drwy gydol y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, ond fel yr eglurais, cyfrifoldeb Llywodraeth San Steffan mewn gwirionedd yw dangos bod ei hymrwymiad i fwrw ati o ddifrif i ddechrau trafodaethau trawsbleidiol yn ymrwymiad diffuant mewn gwirionedd, os yw'n goroesi'r bleidlais o ddiffyg hyder heno wrth gwrs.
Fodd bynnag, gwrthwynebwn y gwelliant am nad yw'n mynd yn ddigon pell. Dylai'r Cynulliad ddweud yn gwbl glir yn awr y dylid diystyru 'dim bargen'. Gan nad yw gwelliant y Ceidwadwyr yn dweud unrhyw beth o gwbl ynglŷn â pha fath o ateb y gellir ei ragweld i'r argyfwng hwn, rwy'n tybio mai'r rheswm am hynny yw bod y rhaniadau yma'n ddrych o'r rhai a geir o fewn y blaid yn y Senedd. Gwn fod rhai o'r Aelodau Ceidwadol gyferbyn yn deall yn iawn pa mor ofnadwy o ddinistriol fyddai Brexit 'dim bargen'. Felly, apeliaf arnynt i ymuno â ni i gefnogi'r cynnig hwn, ac yna gall Prif Weinidog Cymru gyfleu neges wirioneddol ddiamwys i'r Prif Weinidog os a phan fydd hi'n cynnull y Cydbwyllgor Gweinidogion fel y mae'r cynnig hwn yn briodol yn galw amdano.
Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.
Gaf fi ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl gyffrous yma y prynhawn yma—lliwgar iawn ar adegau? Rydw i'n meddwl bod hynny, wrth gwrs, yn adlewyrchu'r teimladau cryfion a'r teimladau sydd yn gynyddol gael eu polareiddio yn y drafodaeth hynny. Mae hynny yn biti, ond wrth gwrs dyna yw'r her rŷn ni'n ei hwynebu, o safbwynt ffeindio ffordd allan o'r dryswch mawr yma. Ac mi wnaeth Adam Price daro nodyn sobreiddiol reit ar y cychwyn, yn rhoi darlun inni o'r difrod y bydd Brexit heb gytundeb yn ei achosi, ac yn cyfaddef ei hunan efallai ei fod e'n anghywir, ond os ydy e'n anghywir, wel, nid fe fydd yr unig un sy'n anghywir, oherwydd mae yna sylwebwyr ac arbenigwyr a phobl yn gweithio mewn sectorau ar draws yr economi, ar draws y Deyrnas Unedig, sydd yn ofni ac yn rhagdybio'r un canlyniad, a'r Llywodraeth ei hunan hefyd. Felly, ydy e'n risg sy'n werth ei chymryd? Wel, nac ydy, a dyna pam, wrth gwrs, ŷn ni fel plaid wedi dod â'r cynnig yma gerbron heddiw.
Dwi eisiau sôn ychydig am yr impact ar y diwydiant amaeth, oherwydd mae'n sector sy'n agos iawn at fy nghalon i, ac mae e'n un, wrth gwrs, sydd yn mynd i fod yn wynebu rhyferthwy Brexit yn fwy, efallai, na nifer fawr, neu'r rhelyw o sectorau eraill.
Ac mae rhai o'r pryderon ynglŷn â ffermio wedi'u trafod droeon, wrth gwrs, ond yn fwyaf diweddar yn y drafodaeth bwrdd crwn ar ffermio yn y DU, lle y gwyntyllwyd nifer sylweddol o effeithiau mwyaf a mwyaf uniongyrchol Brexit 'dim bargen' posibl. Gwyddom, er enghraifft, y gallai fod goblygiadau enfawr i gynhyrchion anifeiliaid megis cig, wyau a llaeth sy'n cael eu hallforio i'r UE ar hyn o bryd. Ni fyddant ond yn mewnforio o wledydd cymeradwy, a gallai gymryd misoedd i ni gyrraedd statws o'r fath mewn senario 'dim bargen', wrth gwrs. Ac mae'r effaith ar ein sector cig oen yn enwedig yng Nghymru yn peri pryder mawr.
Cyfeiriwyd at y tariffau allforio. Beth y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd? Wel, gellid eu gosod ar 60 y cant o fwyd y DU, bwyd a diod sy'n mynd i'r UE, cynyddu tariff allforio i gyfartaledd o 27 y cant ar gyw iâr, 46 y cant ar gig oen, 65 y cant ar gig eidion. Dyma'r ffigurau rydym yn sôn amdanynt, a gallaf weld Mr Hamilton ar ei draed. Ewch chi.
Ond rydym yn fewnforwyr net anferth o'r holl gynhyrchion hyn, ar wahân i gig oen. [Torri ar draws.] Ar wahân i gig oen, lle y mewnforiwn gymaint ag a allforiwn—mae yna gydbwysedd masnach. Rydym yn fewnforwyr net anferth, felly bydd tariffau milain yr UE yn gymwys i'w gwerthiannau hwy i ni lawn cymaint â'n gwerthiannau ni iddynt hwy, felly byddant hwy fwy ar eu colled na ni.
Dyma ni'n mynd. Rydych chi'n ymgnawdoliad o'r rhithdyb o fawredd y mae'r ymerodraeth Brydeinig yn dal i fodoli ynddi. [Torri ar draws.] Na, mae'n wir. A dyna sy'n fy nghorddi ynglŷn â llawer o'r ddadl hon. Mae'n fy nghorddi oherwydd fod peth o'r rhethreg ynglŷn â Brexit a gadael yr UE—mae iddo adleisiau o'r rhethreg adeg y rhyfel, onid oes? Ysbryd Dunkirk, palu dros fuddugoliaeth. Rydym i fod yn byw mewn oes heddychlon. Mae hi i fod yn adeg o heddwch, ac mae'r math hwn o rethreg yn sawru mwy o hunan-niwed na hunanddibyniaeth. [Torri ar draws.] Ydy—ydy'n bendant. Ac edrychwch, nid fi sy'n dweud hyn i gyd. Heno mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhyddhau datganiad, ac rwy'n dyfynnu:
O ystyried canlyniad y bleidlais hon a pheryglon senario dim bargen, teimlai ein cadeiryddion a'r tîm Llywyddol mai'r unig ffordd y gallwn adfer rheolaeth ar broses Brexit yw tynnu erthygl 50 yn ôl—
Undeb Amaethwyr Cymru sy'n dweud hyn— a diogelu dyfodol y diwydiant amaethyddol drwy wneud hynny, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU.
Ac maent yn mynd rhagddynt, ac ni fyddwch yn hoffi hyn o gwbl:
Ymddengys bod cefnogaeth gynyddol i ail refferendwm ledled y wlad, ac mae'n ymddangos bod hynny'n cael ei adlewyrchu yn ein sector ni.
Dyna ni. Beth bynnag, rwyf wedi colli fe lle yn awr, onid wyf? [Chwerthin.] Ond fe welwch beth sydd gennyf, oni wnewch? Gwyddom y bydd effeithiau ar y sector, ac wrth gwrs o ran llafur yn ogystal—byddai rhoi diwedd sydyn ar y gallu i symud llafur o'r UE yn achosi problemau difrifol o ran sicrhau llafur i gynaeafu a phrosesu cynnyrch y DU hefyd, wrth gwrs, a cheir effaith arall o ran arolygiadau milfeddygol, sy'n rhywbeth rydym wedi'i drafod yma o'r blaen yn y Siambr hon. Yn y senario waethaf, yn ddiweddar rhybuddiodd un o benseiri Brexit hyd yn oed, Michael Gove, ynglŷn â difa hyd at un rhan o dair o holl ddefaid y DU, ac roedd ganddo hyfdra i bregethu wrth eraill, ac rwy'n dyfynnu na all neb fod yn ddiofal neu'n ddidaro ynghylch yr effeithiau real ar gynhyrchwyr bwyd yn y wlad hon o adael heb y cytundeb.
Wel, pwy oedd yn fwy diofal neu ddidaro nag ef ddwy flynedd yn ôl?
Fel gyda phopeth sy'n ymwneud â Brexit, ydy, mae'n cael ei bolareiddio ac fe fydd safbwyntiau gwahanol, ond yr hyn a wyddom yw bod consensws clir mewn gwirionedd o bob cyfeiriad mai Brexit 'dim bargen' fyddai'r Brexit mwyaf niweidiol o'r cyfan. Bydd hyd yn oed y bws Brexit gwaradwyddus, fe gredaf, yn gorffen ei oes wedi'i barcio ar lain galed ger Dover, yn ceisio mynd allan o'r wlad. [Chwerthin.] Na. Brexit 'dim bargen' yw'r gwaethaf o bob byd, ac mae'n rhaid ei wrthod, ac rwy'n annog yr holl Aelodau i gefnogi cynnig Plaid Cymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.