Part of the debate – Senedd Cymru am 6:27 pm ar 16 Ionawr 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyn dechrau, hoffwn roi gwybod i'r Siambr y buaswn yn hoffi rhoi munud yr un o fy amser i David Melding, Mohammad Asghar a fy nghyd-Aelod Rhianon Passmore.
Mae'n bleser gennyf arwain y ddadl fer hon heddiw ar iechyd meddwl yn y gweithle, yn enwedig yng ngoleuni contract economaidd Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Hoffwn ddiolch i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth am ei holl waith caled ar y contract hwnnw, a dweud fy mod yn gobeithio y gallwn barhau i weithio gyda'n gilydd yn agos ar fater iechyd meddwl. Gobeithiaf hefyd y gallaf weithio gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y mater hwn yn ogystal.
Bydd yr Aelodau'n gwybod bod gwella cymorth iechyd meddwl yn rhywbeth agos iawn at fy nghalon, ac mae'r ddadl fer hon yn gyfle arall i drafod y mater ac i fynegi fy nheimladau ar y mater hwn. Ond mae hefyd yn gyfle da i dynnu sylw priodol at waith yr ymgyrch Where's Your Head At—ymgyrch sy'n anelu i sicrhau bod pob cyflogwr yn edrych ar ôl lles eu gweithlu. Yn benodol, mae'n gofyn am ei gwneud yn orfodol i gael gweithiwr cymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gweithle.
Nawr, rwy'n cytuno â'r alwad honno, a dyna pam rwy'n diolch i ffigwr blaenllaw yn yr ymgyrch honno, Natasha Devon MBE, am ei holl waith hyd yma. Cefnogwyd ei hymgyrch yn eang ledled y DU, gyda dros 200,000 o lofnodwyr—ASau ar draws y pleidiau gwleidyddol, yn ogystal â dros 50 o arweinwyr busnes y DU. Mae cefnogi ymgyrch o'r fath a gwneud newid yn realiti yma yng Nghymru yn gwneud synnwyr llwyr, a dyna'r peth cywir i'w wneud. Mae'n gwneud synnwyr o safbwynt dynol ac ariannol i sicrhau ein bod yn diogelu iechyd meddwl yn y gweithle yn yr un modd ag y diogelwn iechyd corfforol.
Bob blwyddyn, mae problemau iechyd meddwl yn y gweithle yn costio bron £35 biliwn i economi'r DU, a cholli 15.4 miliwn o ddyddiau gwaith yn sgil straen, iselder a gorbryder sy'n gysylltiedig â gwaith. Ond nid cost ariannol yn unig yw hi. O'i adael heb ei drin, mae salwch meddwl yn effeithio ar berthynas yr unigolyn â ffrindiau, teulu, cydweithwyr, ac yn y pen draw mae'n effeithio ar ansawdd eu bywydau. Canfu astudiaeth bwysig o lesiant yn y gweithle gan yr elusen Mind fod mwy na hanner y bobl a holwyd wedi profi salwch meddwl yn eu swydd bresennol.
Mae'r contract economaidd yn un o'r polisïau allweddol yng nghynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru, ac o dan y contract bydd angen i fusnesau sy'n ceisio cymorth gan y Llywodraeth ymrwymo i egwyddor twf, gwaith teg, lleihau ôl troed carbon, iechyd, sgiliau a dysgu yn y gweithle. Felly, rwy'n arbennig o falch fod iechyd meddwl yn flaenoriaeth yn y contract economaidd ac y bydd y Llywodraeth yn cefnogi mentrau gwahanol.
Ond yn yr un ffordd ag y mae pobl sy'n dioddef salwch meddwl eisiau cymorth gwirioneddol, rwyf fi eisiau newid ac atebion gwirioneddol. Rwy'n credu bod gan yr ymgyrch hon ran bwysig i'w chwarae a buaswn yn annog Llywodraeth Cymru i roi ei chefnogaeth lawn i ymgyrch Where's Your Head? a fydd yn destun dadl yn Senedd y DU, ac i ystyried yr holl opsiynau o ran beth y gellir ei wneud i sicrhau ein bod yn darparu cymorth cyntaf iechyd meddwl, fel y darperir cymorth cyntaf corfforol, yn y gweithle, yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.
Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gofal tuag at eu staff, ac er bod rhai cyflogwyr ar flaen y gad yn sicrhau newid, ni allwn fforddio gadael neb ar ôl yma yng Nghymru neu yn y DU. Rwy'n talu teyrnged i Airbus yn fy etholaeth ac etholaeth Jayne Bryant, y gwn eu bod yn gwneud llawer o waith yn y maes hwn, a hoffwn dalu teyrnged hefyd i fy undeb fy hun, a diolch iddynt, undeb Unite, am yr holl waith a wnânt yn darparu cymorth a hyfforddiant ar iechyd meddwl i'w haelodau a'r mater penodol hwn.
Nawr, mae angen inni rannu arferion gorau, ond mae angen inni sicrhau hefyd fod cyflogwyr eraill yn cydraddoli nifer y swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl sydd ganddynt. Ni all cost fod yn rheswm dros wrthwynebu, oherwydd bydd cael swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gweithle yn arwain at arbedion yn y dyfodol hirdymor. Rwyf am i Gymru, ac rwyf am i Lywodraeth Cymru, arwain ar y mater hwn. Os llwyddwn yma yng Nghymru, bydd eraill yn dilyn a bydd eraill yn llwyddo hefyd.
Ddirprwy Lywydd, yn ddiweddar anfonwyd llythyr at Brif Weinidog y DU a ddywedai'n gywir y bydd llwyddiant yn sicrhau bod gweithwyr ar draws y DU yn gallu troi at aelod hyfforddedig o staff ac yn gallu cael cymorth ac arweiniad cychwynnol os ydynt yn dioddef problem iechyd meddwl yn y gweithle. Bydd llwyddiant yn sicrhau bod gan bob gweithiwr hawl i amgylchedd iach yn feddyliol—amgylchedd gwaith iach yn feddyliol. Ac o'r gefnogaeth drawsbleidiol sydd gennym yma heno, rwy'n credu ei bod hi'n amlwg fod pawb ohonom yn y Siambr hon eisiau gweld llwyddiant yn hyn o beth.
Felly, yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn grybwyll beth fyddai llwyddiant yn ei olygu i mi. I mi, bydd llwyddiant yn golygu y gallwn o'r diwedd dorri stigma iechyd meddwl yn y gweithle a gallwn ei gwneud yn glir ei bod hi'n iawn i beidio â bod yn iawn. Ac os gwthiwn ymlaen gyda'r ymgyrch hon byddwn yn anelu tuag at fyd o iechyd meddwl da i bawb. Diolch.